M am Awtistiaeth
M. Dyna beth hoffwn i chi fy ngalw i, plis. M. Fe ddyweda i pam nes ’mlaen.
Croeso i fy myd i. Mae’n fyd pendramwnwgl, sur a chwerw, ac mae bwystfil gorbryder yn llercian y tu allan i bob stafell ddosbarth ac yn fy stopio i rhag cael bodolaeth normal. Dw i eisiau bodolaeth NORMAL.
Dw i eisiau bod fel merched eraill fy oed i sy’n gwybod beth i’w ddweud a’i wneud. Dw i eisiau bod gyda Lynx a’i wefusau melys a’r gel yn ei wallt; Lynx sy’n werth y byd i gyd yn grwn. Felly pam mae hi’n teimlo fel petawn i’n bodoli ar blaned wahanol i bawb arall? A beth yn y byd ydy normal?
Awdur/Author : Tudur Dylan
Dyddiad Cyhoeddi/Publication Date: 12/2020
Cyhoeddwr/Publisher: Atebol
Format: Clawr Meddal/Soft Cover, 96 tudalen/Pages
Iaith/Language: Cymraeg/Welsh
ISBN: : 9781801060233