Hanes Siop y Pentan
Sefydlwyd Siop y Pentan gan dri phartner yn 1972.
Mae nawr gan Siop y Pentan dwy siop, un wedi'u leoli yn Farchnad Caerfyrddin a'r siop newydd wedi agor ar Stryd Cowell yng nghanol tref Llanelli
Busnes Teuluol
Rydym yn fusnes teuluol a sefydlwyd dros ddeugain mlynedd yn ol, ac gwerthu pob math o nwyddau Cymraeg a Chymreig yn cynnwys llyfrau, cryno-ddisgiau, anrhegion o bob-math, dillad, a chrefftau lleol.
Mae gan bopeth yma gysylltiad unigryw i Gymru; boed iaith, llenyddiaeth, diwylliant, y celfyddydau, neu crefftau arbenigol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y siop!

Ein nod
Fel cwmni Cymraeg sydd yn gwerthu popeth sy'n gysylltiedig a Chymru, 'rydym yn teimlo'n gryf yn ein dyletswydd i gefnogi iaith a diwylliant ein mamwlad. Mae'r rhan helaeth o'n cynnyrch yn deillio o grefftwyr a busnesau lleol-a hefyd led-led Cymru.
Digwyddiadau
Fel siop Gymraeg leol yn yr ardal, 'rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i hybu llenydiaeth a cherddoriaeth Gymraeg - unai drwy wahodd yr awdur-neu artistiaid i'r siop - i lofnodi copiau o'i gwaith, neu drwy gynnal noson ble fydd yr awdur yn lansio llyfr newydd - ac yna cael gwrando hefyd ar gerddoriaeth fyw gan artist sydd newydd ryddhau CD. Mae hyn hefyd yn gyfle i'r gynnulleidfa i holi cwestiynnau i'r awdur am ddeunydd y llyfr a dod i adnabod yr awdur. Cysylltwch gyda ni os ydych am drefnu noson o'r fath.
Rydym yn cydweithio gydag ysgolion lleol, ac yn cyflenwi ysgolion cynradd ac uwchradd ein sir a phellach - gydag adnoddau addysg a llyfrau i ddisgyblion, ac wrth ein boddau yn cael gosod stondin yn ei ffeiriau Haf a Nadolig pan ddaw'r cyfle
Yr Atom
Mae cysylltiad agos gyda ni à sefydliadau addysg a mentrau iaith y Sir, ac mae canolfan Yr Atom yng Nghaerfyrddin yn gwneud llawer o waith arbennig yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac yn rhoi cyfle i ni gydweithio gyda nhw pan yn cynnal digwyddiadau amrywiol.
Rydym wrth ein bodd hefyd pan fydd dysgwyr yr iaith yn mynychu'r siop, nid yn unig i brynu llyfr-ond hefyd i ymarfer siarad a sgwrsio yn y Gymraeg gyda staff y siop
Yr Egin
Safle newydd S4C Gorllewin Cymru. Canolfan arbennig sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau gydol y flwyddyn i hybu iaith a diwylliant Cymru ac yn rhoi cyfle i dalentau amrywiol i arddangos eu galluoedd i'r cyfryngau Cymraeg
https://yregin.cymru
Canolfan Peniarth
'Rydym yn gweithio yn agos gyda Canolfan Peniarth. Un o'r prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Fe ddaeth llond siop o blant i mewn gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones, er mwyn lansio cyfres Dysgu Newydd yn y farchnad.
https://peniarth.cymru
Gwyl Canol Dre
Mae gan Siop y Pentan stondin yng Ngwyl Canol Dre bob blwyddyn ers cychwyn yr Wyl. Dyma Wyl lleol a drefnir gan Menter iaith Gorllewin Sir Gâr. Mae’r gwyl yn rhoi cyfle i fusnesau lleol, artistiad, ac awduron led-led y wlad i arddangos ei talentau i'r gymuned.
<iframe src="https://www.google.com/maps/embed?pb=!1m18!1m12!1m3!1d2345.4598802121013!2d-4.31148982369333!3d51.857729585050905!2m3!1f0!2f0!3f0!3m2!1i1024!2i768!4f13.1!3m3!1m2!1s0x486ee6d529962d51%3A0x151d1441eb270a4c!2sSiop%20Y%20Pentan!5e1!3m2!1sen!2suk!4v1781102910623!5m2!1sen!2suk" width="600" height="450" style="border:0;" allowfullscreen="" loading="lazy" referrerpolicy="no-referrer-when-downgrade"></iframe>