Tomos Llygoden y Theatr a'r Seren Fyd-Enwog
£4.99
Dyma'r ail gyfrol yng nghyfres Tomos Llygoden y Theatr, sy'n dilyn hynt a helynt y llygoden fach hapus, chwilfrydig, ciwt ac anturus. Y tro hwn mae Tomos yn cyffroi pan ddaw ei hoff actor i berfformio yn y theatr, ond mae trychineb yn digwydd iddo cyn iddo gyrraedd y llwyfan! A all Tomos achub y dydd?
Dyma lyfr i blant sy’n denu sylw yn syth oherwydd ei siâp bychan, sgwâr, anghyffredin sy’n berffaith ar gyfer ei gario mewn poced cot neu fag llaw yn barod i ddiddanu plant wrth aros i’r bwyd gyrraedd mewn caffi ... neu yn sêt gefn y car lle mae wedi bod yn byw gyda ni!
Yr ail yng nghyfres Tomos Llygoden y Theatr, mae’r awduron Caryl Parry Jones a Craig Russell yn ein tywys drwy hynt a helynt llygod bach hoffus sy’n byw mewn theatr grand yn y ddinas. Ym mhob cyfrol daw rhyw argyfwng sy’n galw ar Tomos a’i griw i achub y dydd.
Mae arlunwaith trawiadol Leri Tecwyn yn dod â’r cymeriadau’n fyw, a chyda dros 70 o dudalennau lliwgar rydym yn bendant yn cael gwerth ein £4.95. Fel stori i’w darllen i blant, roedd hanes y seren fyd-enwog Trystan Gwynfyd ap Rhych (ie, dyna’i enw!) yn dod i’r theatr i berfformio, a’i droeon trwstan digri, er ychydig yn wirion yn fy marn i, wrth fodd fy mab 5 oed, wrth gwrs, a oedd yn chwerthin allan yn uchel pan gollodd y canwr ei wig!
Ar y llaw arall, roedd fy merch 7 oed yn gallu darllen y stori ar ei phen ei hun, a gan nad oes gormod o destun ar bob tudalen, a bod y stori yn symud yn ei blaen yn gyflym, roedd hi’n ysu i gael gweld beth oedd yn digwydd nesa. Mae hi’n edrych ymlaen at antur nesa Tomos yn barod!
Cyfres wreiddiol a deniadol a fydd yn gwneud anrheg berffaith i blentyn rhwng 4 a 8 oed.
Elen Roberts