Skip to content

Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018

£8.99

A welwyd y fath ymateb erioed i nofel Gymraeg? Ychydig dros wythnos ar ôl i Llyfr Glas Nebo ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Caerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Do, fe gafodd ganmoliaeth gan feirniaid y gystadleuaeth: “Mae profi cyffro fel hyn yn peri i ias eich cerdded,” meddai Sonia Edwards am y profiad o’i darllen, ond dyma nofel hefyd sydd wedi cyffwrdd â’i darllenwyr, boed yn bobl sy’n prynu pob nofel Gymraeg a ddaw o’r wasg, neu rai sydd prin yn agor cyfrol o un pen y flwyddyn i’r llall. Ys dywedodd Betsan Wyn Morris ar Twitter:

"Mae fy feed Instagram i wedi mynd o lunie o fwyd, cathod, a pobol smyg "my office for today" i jyst llunie o bobol ar drenau / gwylie yn darllen Llyfr Glas Nebo."

Yr ymateb cyffredinol yw ei bod yn nofel hawdd ei darllen ond sy’n aros yn hir ym meddwl y darllenydd. A dyna yw camp ryfeddol Manon Steffan Ros; creu cymeriadau i ni boeni amdanyn nhw a sefyllfa frawychus o bosibl a chredadwy, er mor afreal.

Bachgen ifanc yn ei arddegau yw Siôn, ac mae yntau a’i fam Rowenna yn adrodd stori eu bywydau yn ardal Nebo mewn hen lyfr nodiadau sydd wedi’i fathu’n Llyfr Glas Nebo gan Siôn, yn nhraddodiad Llyfr Coch Hergest a Llyfr Du Caerfyrddin, yr hen lawysgrifau canoloesol sy’n cofnodi cymaint o hanes Cymru. Rydym ni’n cwrdd â’r ddau rai blynyddoedd ar ôl Y Terfyn, y trychineb enbyd a newidiodd fywydau pawb. Chawn ni ddim gwybod yn union beth ddigwyddodd; gan fod y cyflenwad trydan yn peidio a’r cyfryngau’n distewi, a does dim modd cael newyddion na chlywed am ddim byd pellach na’r ardal leol. Mae sôn am fom niwclear efallai, neu drychineb yn atomfa’r Wylfa, ond canlyniad ac effaith y Terfyn sy’n bwysig, gyda’r bobl sydd wedi goroesi’n gorfod dysgu byw o’r newydd.

Prin mae Siôn yn cofio bywyd cyn Y Terfyn, ac mae’n rhyfeddu at y ffordd roedd pobl yn arfer byw – y gwastraff, a diffyg pwrpas eu bywydau; mae pwrpas i bopeth mae yntau’n ei wneud – hela anifeiliaid bach i gael bwyd, trwsio rhannau o’r tŷ, goroesi. Mae perthynas Siôn a Rowenna’n newid yn ystod y cyfnod – o fod yn fam yn gofalu am blentyn bach i gyd-ddibyniaeth a chyd-aeddfedu. Mae bywyd yn anodd, ond wrth i’r gyfrol fynd rhagddi, mae cyfoeth eu bywyd yn dod yn amlycach – eu perthynas â’i gilydd, pleser mewn pethau bach, a gwirioneddol werthfawrogi byw yn eu cynefin.

Mewn un man mae Rowenna’n cofio’n ôl i’r cyfnod cyn y Terfyn, pan fyddai hi’n mynd â Siôn am dro, a’i ffôn gyda hi, yn “creu sefyllfaoedd perffaith er mwyn rhannu delweddau ar-lein heb rannu dim byd. A Sion ers ei fabandod yn llonydd o flaen sgriniau … Roeddan ni’n byw heb ddistawrwydd – sŵn teledu neu radio yn parablu yn y cefndir o hyd – ond roedd yna fudandod gwag, afiach am y ffordd roedden ni’n byw”. Mae’r ychydig gymalau syml hyn yn enghraifft hyfryd o gynildeb Manon Steffan Ros. A hithau’n cyfansoddi stori fer fer i Golwg yn wythnosol ers rhai blynyddoedd, mae hi wedi hogi a mireinio ei chrefft a’i gallu i ddweud llawer iawn mewn bach iawn o eiriau.

Dyma gyfrol fer, ond un sy’n llawn i’r ymylon. Ydy, mae’n hawdd ei darllen, ond mae’n codi cwestiynau am flaenoriaethau ein hoes a’n ffordd o fyw nad oes iddynt atebion hawdd o fath yn y byd.

Catrin Beard

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Awdur: Manon Steffan Ros

Iaith: Cymraeg

Clawr: Meddal

Tudalennau: 144

Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2019