Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dan y Wenallt

Dan y Wenallt

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Argraffiad newydd o addasiad Cymraeg o ddrama radio Dylan Thomas, Under Milk Wood. Drama am gymeriadau mewn tref ddychmygol, wedi'i chreu yn arbennig ar gyfer y lleisiau amrywiol sy'n ymddangos ynddi. Argraffiad newydd i gyd-fynd â chanmlwyddiant Dylan Thomas. Rhagair gan Walford Davies.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new edition of a Welsh version of Dylan Thomas's radio play, Under Milk Wood. A play about characters in a fictional town, renowned for its use of various voices. A revised edition published to coincide with the Dylan Thomas centenary celebrations.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780863838125
Gwales Code
gwales.com.9780863838125
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dan y Wenallt
Awdur / Author
Thomas, Dylan
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Out of print
Availability Status (CY)
Allan o brint
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-03-11
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Atebol
Translator
Jones, T. James
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
134 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (yn Gymraeg) | EN: Plays, Sketches, Pantomimes (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Dramâu (yn Gymraeg) | EN: Plays (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn ôl Walford Davies, gellir dadlau mai Under Milk Wood yw’r ddrama radio orau a ysgrifennwyd erioed. Am ddweud mawr. Gallaf finnau fentro dweud mai Dan y Wenallt yw’r addasiad Cymraeg gorau o unrhyw ddrama imi ei darllen erioed. Perfformiwyd y fersiwn Cymraeg gyntaf yn 1967 yn Nhalacharn, a braint fu cael bod yn un o’r actorion. Roedd T. James Jones, yr addasydd, hefyd yn un o’r Lleisiau. Flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddwyd yr addasiad. A nawr dyma addasiad newydd ynghyd â rhagair athrylithgar gan Walford Davies. Mae cymaint wedi ei ddweud am y ddrama hon fel mai anodd fyddai canfod unrhyw beth newydd i’w ddweud amdani. Ond mae Walford wedi gwneud i mi edrych o’r newydd ar gampwaith Dylan a chynnig ateb i’r cwestiwn: Beth, tybed, fyddai hanes Dylan pe siaradai Gymraeg? Mae gan Walford ddamcaniaeth sy’n cyfateb i’r Maen Rosetta fel allwedd i ddirgelwch hieroglyffig. Yn Return Journey ceir gan Dylan un frawddeg Gymraeg: ‘Ydych chi wedi colli rhywbeth – dan yr eira? ... Oh, I see, English. Lost anything under the snow?’ A do, fe gollodd Dylan rywbeth hefyd o dan eira’i blentyndod. Do, amddifadodd D. J. Thomas ei fab o iaith ei rieni gan droi’r aelwyd yn Abertawe yn aelwyd Saesneg. Cofiaf sgwrsio rywdro â Tom Herbert, y cymeriad mawr hwnnw o Aberaeron, am ei gyfeillgarwch â Dylan. Pan holwyd ef gan Tom am ei anallu i siarad Cymraeg, ei esboniad oedd mai ar ei dad oedd y bai. ‘You see, Welsh wasn’t good enough for Dylan bach,’ meddai. Drama i leisiau yw Under Milk Wood , wrth gwrs. Y geiriau sy’n bwysig, yn wir yn hollbwysig. A gellid yn hawdd feddwl mai tasg amhosibl fyddai ei haddasu i’r Gymraeg. Ond mae addasiad Jim yn gampwaith. Yn wir, meiddiaf ddweud fod yr addasiad, mewn mannau, yn rhagori ar y gwreiddiol. Roedd y gwaith yn llawer mwy anodd oherwydd yr angen i addasu drama a oedd eisoes yn Gymreig i’r Gymraeg. Wna i ddim ceisio dyfynnu o’r cyfieithiad. Darllenwch y ddrama, a hynny'n uchel. Ond cyn hynny darllenwch ragair dadlennol Walford Davies. Dywed i Dylan annerch y pum llefarydd cyn y darlleniad cyntaf erioed o’r ddrama yn Efrog Newydd yn 1953 drwy ddweud: ‘Love the words! Love the words!’ Dylem ninnau, meddai Walford, adleisio’r gorchymyn a’r gwahoddiad parthed addasiad gwych T. James Jones: ‘Cerwch y geiriau! Cerwch y geiriau!’

View full details