'Rydym ni'n edrych am rhywun i weithio yn ein siop newydd yn Llanelli!
Mi fyddai'r person yma yn meddu ar y factorau canlynol, a fyddai'n ofynnol i weithio yn ein siop newydd sydd yn agor yn fuan (01/12/2021).
Hoffwn i'r sawl sy'n ymgeisio am y swydd fod â:
- brwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Cymru;
- dangos diddordeb yn y nwyddau, crefftau, a'r anrhegion amrywiol a wneir yng Nghymru;
- gweithio 30 awr yr wythnos i ddechrau, gyda'r posibilrwydd o ehangu ar yr oriau hyn; a
- Gallu gweithio o leiaf 2 ddydd Sadwrn y mis
Byddai'r ymgeisydd hefyd yn gyfforddus yn defnyddio meddalwedd er mwyn gallu cyfrannu tuag at gwmni sydd yn tyfu ac yn ehangu gwerthiant ar y we.
Bydd profiad o weithio ar ben eich hun yn ddelfrydol, ac hefyd i fod yn hyderus i weithio'n annibynnol.
Byddai sgiliau cyfrathebu da yn angenrgeidiol i'r swydd, ac wrth gwrs, y gallu i gyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg.
Mi fyddwn yn rhoi cyfraddau cyflog yn ol profiad.
Anfonwch eich CV i busnes@ypentan.co.uk neu ffoniwch 07951 610278 i drafod ymhellach.