Cyngor Llyfrau Cymru
Ysgrifau Beirniadol XXXI
Ysgrifau Beirniadol XXXI
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Y gyfrol gyntaf o Ysgrifau Beirniadol dan olygyddiaeth Tudur Hallam ac Angharad Price. Mae hon, fel ei rhagflaenwyr, yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau beirniadol sydd yn cynnig golwg newydd a ffres ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru a thu hwnt.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The latest volume in a scholarly series, comprising discussion on diverse topics relating to Welsh literature.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781904554172
- Gwales Code
- gwales.com.9781904554172
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ysgrifau Beirniadol XXXI
- Awdur / Author
- Gee, Gwasg
- Current Price ex VAT
- £15.00
- Current Price inc VAT
- £15.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-02-18
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gee
- Editor
- Hallam, Tudur; Price, Angharad
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 224 pages
- Size
- 140 × 215 mm; depth 14 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Y Llythyr a’r Llyfr. Gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis - Manon Mathias. Marwnad Owain ab Urien - Marged Haycock r/hanfodoli - Tudur Hallam Trafferth Mewn Tafarn a’r gofod hybrid - Angharad Naylor Dic yr Hendre, Y Bardd Llawryfog a Saunders - Peredur I. Lynch Cyfieithu Daniel Owen: Gweithred Genedlaetholgar - Adam Pearce Ailymweld â Theatr yr Absẃrd - Hannah Sams Holi’r Athro M. Wynn Thomas - M. Wynn Thomas a Tudur Hallam
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Cyfranwyr: Tudur Hallam: Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ysgogwyd yr ysgrif gan gyfres o seminarau a draddodwyd i ddosbarth llenyddol yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion yn Sgeti, Abertawe. Marged Haycock: Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Peredur Lynch: Athro yn y Gymraeg a Phennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Manon Mathias: Darlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor. Y nofel Ffrangeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw maes ei harbenigedd. Angharad Naylor: Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r ysgrif yn datblygu deunydd ei thraethawd PhD ar waith Dafydd ap Gwilym. Adam Pearce: Mae wrthi'n cwblhau traethawd PhD ar gyfieithiadau o waith Daniel Owen. Ef yw cyfieithydd y fersiwn Saesneg cyntaf o Straeon y Pentan. Hannah Sams: Myfyrwraig PhD (dan nawdd yr AHRC) yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Deillia'r ysgrif yn rhannol o'i thraethawd MA ymchwil ar waith Gwenlyn Parry a Theatr yr Absẃrd. M. Wynn Thomas: Athro yn yr Adran Saesneg a deiliad Cadair Emyr Humphreys ym Mhrifysgol Abertawe.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ymhlith pynciau’r gyfrol hon y mae’r canlynol: ● cymharu llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts â gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert ● cyflwyno ‘Marwnad Owain ab Urien’ i ddisgyblion chweched dosbarth ● trafod y syniad o ‘hanfod’ mewn llenyddiaeth Gymraeg gan roi sylw penodol i ddatblygiad tri bardd cyfoes ● archwilio’r ‘gofod hybrid’ yn un o gerddi Dafydd ap Gwilym ● gosod Dic Jones mewn perthynas â swydd y poet laureate yn Saesneg ● edrych ar rôl genedlaetholgar y cyfieithiadau Saesneg o waith Daniel Owen ● ail-asesu’r syniad o Theatr yr Absẃrd Mae’r cyfranwyr yn gyfuniad o enwau newydd ac enwau beirniaid llenyddol sefydledig mewn sawl disgyblaeth wahanol, sef Manon Mathias, Marged Haycock, Tudur Hallam, Angharad Naylor, Peredur Lynch, Adam Pearce, Hannah Sams. Cyflwynir y rhifyn hwn i'r Athro M Wynn Thomas, ac mae cyfweliad dadlennol rhyngddo ac un o’r golygyddion yn cloi’r gyfrol.
Share
