Cyngor Llyfrau Cymru
Yn y Gwaed
Yn y Gwaed
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Doedd dim croeso i neb yn Arllechwedd - dyna'r unig ffordd y gallai'r teulu geisio diogelu ei gyfrinachau. Nofel afaelgar a enillodd i'r awdur Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990. Argraffiad newydd; cyhoeddwyd gyntaf yn 1990 (ISBN 9780863836732).
Disgrifiad Saesneg / English Description
No one is ever welcome in Arllechwedd - that is the only way that the family can safeguard its secret. A much-praised novel for adults and winner of the Daniel Owen Memorial Prize at the 1990 National Eisteddfod. New edition; first published in 1990 (ISBN 9780863836732).
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848512023
- Gwales Code
- gwales.com.9781848512023
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Yn y Gwaed
- Awdur / Author
- Jones, Geraint V.
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-01-23
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 148 pages
- Size
- 128 × 197 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae gan bob teulu sgerbwd yn ei gwpwrdd. Ond mae gan deulu Arllechwedd fwy na’i siâr. Ac mae un ohonynt yn gwrthod gorwedd yn dawel. Wn i ddim am un awdur Cymraeg sy’n well am greu naws na Geraint V. Jones. O’r freuddwyd erchyll sy’n brawychu Robin ar y dechrau i’r giât yn cau ar ei chlicied ar y diwedd, mae’r naws annifyr a thywyll yn gefndir hollbresennol i’r nofel gelfydd hon. Nofel iasol yw Yn y Gwaed , nofel affwysol o drist gyda’r diweddglo anochel i’w weld o’r dechrau. Ond cryfder yw hynny, nid gwendid. Mae’r stori’n troi o gwmpas teulu o dri. Y fam yw’r teyrn sy’n rheoli’r aelwyd. Mae Mared, y ferch, yn dioddef yn seicolegol o ryw ddigwyddiad trawmatig yn ei gorffennol. Mae’r mab, brawd Mared, yn brwydro yn erbyn dylanwad ei fam wrth iddo, ar yr un pryd, geisio crafu bywoliaeth o’r tir diffrwyth. Mae yna bedwerydd aelod. Ond mae ‘Fo’ wedi'i guddio rhag y byd. Yn wir, gellid dweud fod yna bumed aelod o’r teulu yno hefyd, Dewyrth Ifan. Ac er iddo farw, mae ei ddylanwad yn dal yn fyw. Yn wir, mae mwy na’i ddylanwad yn fyw. Ydi, mae hon yn nofel iasol, ac weithiau’n frawychus. Ac mae hi’n llawer mwy na hanes teulu. Ynddi gwelwn ddifodiant y bywyd gwledig a diwedd cymdeithas Gymraeg. Yn wir, gwelwn hau hadau difodiant y Cymry Cymraeg. Yn goron ar y cyfan mae arddull ryfeddol yr awdur. Fedra i ddim ond dyfynnu geiriau John Rowlands am nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen: ‘Does dim crafiad na tholc anghyfiaith arni, ac eto nid llyfnder mwyn sy’n ei nodweddu chwaith, ond rhyw arwder cras sy’n gweddu i’w phwnc.’ Er nad yw hi ond 148 o dudalennau o hyd, dyma glamp o nofel. Mae hi, oddi ar ei chyhoeddi gyntaf yn 1990, yn amlwg wedi dylanwadu ar ambell awdur wnaeth ddilyn. Campwaith.
Share
