Cyngor Llyfrau Cymru
Yn ôl i'r Dref Wen - Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen — Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen
Yn ôl i'r Dref Wen - Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen — Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Golwg newydd ar gefndir a dylanwad y canu englynol cynnar sydd wedi'i wreiddio yn yr Hen Bowys, a phwysigrwydd y canu hwn i genedl y Cymry.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A new insight into the background and influence of the early Welsh saga poetry, its roots in the Old Powys, and its importance to the Welsh nation.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781906396848
- Gwales Code
- gwales.com.9781906396848
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Yn ôl i'r Dref Wen - Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen — Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen
- Sub Title
- Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen
- Awdur / Author
- Dafydd, Myrddin ap
- Current Price ex VAT
- £10.95
- Current Price inc VAT
- £10.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-07-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 200 pages
- Size
- 170 × 140 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Rhagymadrodd Heno, yn Neuadd Pantycelyn Gwerth halen Teyrnasoedd y Brythoniaid dan warchae Barddoniaeth a chyfarwyddyd Llywarch Hen a Gwên Cân Heledd Colli’r bobl, colli bro Yr hen wraig grwydrol Englynion o’r hen ganiad Wrth feddwl am fy Nghymru Y ‘Marauding Welsh’ a Morlas
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae’r Prifardd a’r golygydd Myrddin ap Dafydd yn awdur toreithiog i blant ac oedolion ac yn storïwr heb ei ail. Dyma’r gyfrol gyntaf iddo ei chyhoeddi gyda Chyhoeddiadau Barddas.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn y gyfrol ddifyr hon mae’r awdur yn cyflwyno englynion Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen o'r 9fed ganrif i gynulleidfa newydd. Ceir trafodaeth ar gefndir hanesyddol a chyd-destun y cerddi o fewn y traddodiad barddol ac ar elfennau thematig yr englynion, sydd gyda'r canu cynnar mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern: Canu Llywarch Hen - yr hen ryfelwr sy’n galaru am farwolaeth ei feibion ar faes y gad, ac sy’n myfyrio ar ei unigrwydd yn ei henaint, a Chanu Heledd, hithau, yr unig brif gymeriad o ferch ymhlith yr englynion cynnar hyn, sy’n galaru am golli teulu a cholli’i gwlad i’r Saeson. Mae'r gyfrol hefyd yn edrych ar leoliadau daearyddol sy’n gysylltiedig â’r cerddi yn yr Hen Bowys, ac yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, ac yn sôn am ddylanwad y cerddi ar ein diwylliant – ac yn benodol eu dylanwad ar feirdd megis Gerallt Lloyd Owen, ac artistiaid megis y canwr - Tecwyn Ifan. Cynhwysir yn y gyfrol destun gwreiddiol chwe cherdd y diweddarwyd eu horgraff a chyflwynir yn ogystal ddiweddariad o'r cerddi hynny gan Gwyn Thomas. ‘Beth oedd y rheswm dros greu’r englynion yng nghymeriad pendefigion hanesyddol ddau can mlynedd ar ôl eu cyfnod? Beth oedd yn digwydd yng Nghymru tua 850 oedd yn galw am ddod â stori teuluoedd cyfnod colledus 600-650 yn ôl i gof gwlad? Ac yna pam fod y cymeriadau hyn a’r englynion amdanynt wedi dychwelyd i fod â rhan amlwg yn niwylliant ein gwlad dros fil o flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu cyfansoddi? … Mae cyfeiriadau at Lywarch a Heledd, Neuadd Cynddylan a’r Dref Wen yn britho llawer o gywyddau, englynion a chaneuon eraill yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif. Beth oedd arwyddocâd eu creu yn y lle cyntaf a beth sydd mor berthnasol i ni heddiw mewn cymeriadau a delweddau o farddoniaeth mor hynafol?’ (Rhagymadrodd, Myrddin ap Dafydd)
Share
