Cyngor Llyfrau Cymru
Y Plygain Olaf
Y Plygain Olaf
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
A hithau ar drothwy'r Nadolig, mae'r Arolygydd Daf Dafis yn edrych ymlaen at ymlacio yng nghwmni ei deulu bach. Ond pan gaiff academydd blaenllaw ei lofruddio yn un o wasanaethau Plygain cynta'r tymor, mae'r gobaith hwnnw yn prysur ddiflannu.
Disgrifiad Saesneg / English Description
It's almost Christmas, and Superintendent Daf Dafis is looking forward to a relaxing time with his family. But his hopes are dashed when he has to investigate the death of a prominent academist during a local 'Plygain' carol service in rural Montgomeryshire.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845276102
- Gwales Code
- gwales.com.9781845276102
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Plygain Olaf
- Awdur / Author
- Alexander, Myfanwy
- Current Price ex VAT
- £9.00
- Current Price inc VAT
- £9.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-10-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 392 pages
- Size
- 128 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Mae sawl un ar ei ennill yn dilyn marwolaeth ddisymwth Illtyd Astley, gan gynnwys ei wraig, ei gyn-wraig a'i ferch, a phan ddaw ei gysylltiad ag un o gyfarwyddwyr ffilm mwyaf blaenllaw Hollywood i'r amlwg, dechreua Daf sylweddoli nad oes ganddo obaith o orffen ei siopa Dolig...
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Magwyd Myfanwy Alexander yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion. Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan. Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi The LL Files i Radio Wales yn 1999. Hi yw hanner tîm Cymru ar y Round Britain Quiz ar Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Oes Heddwas? yn 2015 a Pwnc Llosg yn 2016. Cafodd A Oes Heddwas? ei chyfieithu i’r Saesneg yn haf 2017 dan y teitl Bloody Eisteddfod.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma nofel sydd wedi ei gwreiddio yng nghefn gwlad Powys. Mae’r awdur, Myfanwy Alexander, yn frodor o Sir Drefaldwyn, felly drwyddi hi rydym ni fel darllenwyr yn dod i adnabod milltir sgwâr yr Arolygydd Daf Dafis ym mhlwyf Dolanog. Down ar draws yr arolygydd yn edrych ymlaen at gael ymlacio yng nghwmni ei deulu dros y Nadolig, ond pan gaiff academydd blaenllaw ei lofruddio mae’r gobaith hwnnw yn prysur ddiflannu. Cawsom gwrdd â'r arolygydd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn A Oes Heddwas? Bu’n rhuthro o gwmpas Llanfair Caereinion yn datrys dirgelwch, a syrthiodd mewn cariad â'i chwaer yng nghyfraith yn y broses. Ydi, mae ei sefyllfa deuluol yn un gymhleth. Yng ngwasanaeth plygain y fro, mae’r academydd Illtud Astley, arbenigwr ar ddiwylliant gwerin, cyflwynydd a chyfansoddwr, yn cael ei wenwyno. Mae’n achos o lofruddiaeth, a Daf Dafis sy’n cael y dasg o arwain yr ymchwiliad, dyrchafiad a fydd yn dod ag ychydig o bres ychwanegol i’w boced cyn y Nadolig. Ydi, mae ei sefyllfa ariannol yn un gymhleth hefyd. Dilynwn Daf, sy’n gymeriad hoffus a normal o'i gymharu â chymeriadau eraill y nofel, wrth iddo geisio darganfod pwy laddodd Illtud Astley, a pham. Gan fod sawl un ar ei ennill yn sgil ei farwolaeth, sylweddola Daf fod sialens fawr o’i flaen. Dyna sy’n gyrru’r nofel yn ei blaen, ond mae cymaint mwy o isblotiau hefyd, ynghyd â gwe o gymeriadau lliwgar, ac o bryd i’w gilydd cawn wybod hefyd beth sy’n digwydd tu ôl i ddrysau ystafell wely cryn dipyn o’r cymeriadau ... Mae popeth yn y nofel hon – hiwmor, dirgelwch, gwrthdaro, cymeriadau gwallgof bost, a throeon trwstan annisgwyl. Pwy fyddai’n meddwl y byddai noson striptease ‘Dadlapio’r Nadolig’ yn cael ei chynnal mewn neuadd bentref yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn? Mae bywyd y gymuned, perthynas y trigolion â’i gilydd a’u bywydau preifat yn denu yr un faint o chwilfrydedd â’r llofruddiaeth ryfedd hon. Mae’r pwnc ei hun yn ddewis beiddgar a gwreiddiol iawn. Sgandal mor fawr mewn gwasanaeth plygain? Y gyntaf yn y Gymraeg, siŵr o fod! Mae'r plygain yn un o draddodiadau mwyaf hynafol Cymru, wrth gwrs, ac mae plwyfi yn ymhyfrydu yn y traddodiad. Da o beth yw dod â’r traddodiad i’r amlwg, a hynny gyda dogn go dda o hiwmor. Mae Daf yn crybwyll bod teimlad cosmopolitaidd i Lanfair Caereinion (o'i gymharu â Dolanog!). Mae’r awdur wedi llwyddo i foderneiddio ystrydebau megis y plygain a bywyd bob dydd cymuned wledig Gymreig. Dyma chwip o nofel ysgafn, ddifyr i'w darllen os ydych am ymlacio ar noson aeafol o flaen y tân.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cynhelir LANSIAD nofel ddiweddaraf Myfanwy Alexander yng NGHANOLFAN DOLANOG NOS IAU, TACHWEDD 23ain am 7.30 gydag adloniant gan gantorion lleol Darperir lluniaeth ysgafn Croeso i bawb
Share
