Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Mabinogi

Y Mabinogi

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Chwedlau o Bedair Cainc y Mabinogi wedi eu hailadrodd ar gyfer plant gan Gwyn Thomas, gyda lluniau trawiadol a lliwgar gan Margaret Jones. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2006.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A retelling of the Four Branches of the Mabinogi for children by Gwyn Thomas, with striking colour illustrations by Margaret Jones. Reprint; first published in 2006.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862438999
Gwales Code
gwales.com.9780862438999
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Mabinogi
Awdur / Author
Thomas, Gwyn
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-01-16
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Darlunydd / Illustrator
Jones, Margaret
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Size
211 × 296 mm; depth 8 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Daw'r Athro Gwyn Thomas o Flaenau Ffestiniog, ond mae bellach yn byw yn Mangor, lle bu'n bennaeth y Gymraeg yn y Brifysgol yno. Mae Margaret Jones yn artist hynod brofiadol ac yn byw yng Nghapel Bangor ger Aberystwyth. Cydweithiodd y ddau ar sawl llyfr i blant, gan ennill gwobr Tir na n-Og ar sawl achlysur.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyhoeddwyd y cyfaddasiad yma o’r Mabinogi am y tro cyntaf gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1984 a hynny rhwng cloriau caled. Fe'i adargraffwyd yn 1985. Yn awr, wele argraffiad hylaw, atyniadol Y Lolfa o’r gwaith rhwng cloriau meddal. Try lluniau Margaret Jones (oddeutu 26 ohonynt a’r mwyafrif mewn lliw) y gyfrol yn un hardd a thrawiadol i’r llygaid. Lluniau lliwgar llawn manylion yw’r rhain sy’n wledd ynddynt eu hunain. Camp cyfaddasiad Gwyn Thomas yw gwneud y chwedlau yn ddarllenadwy a dealladwy a hynny heb golli rhin a hudoliaeth y gwreiddiol. Llwyddodd i greu argraff o eiriad y chwedlau a gofnodwyd tua saith can mlynedd yn ôl. Ceir ôl-nodyn diddorol yng nghefn y gyfrol ble trafoda’r ysgolhaig a’r bardd Gwyn Thomas rywfaint ar gefndir ac athroniaeth y cyfaddasu. Anghytunaf gydag awgrym y broliant mai ‘cyhoeddiad . . . ar gyfer plant’ yw'r gwaith yma gan fod chwedlau Pedair Cainc y Mabinogi yn addas i bawb sy’n hoff o gael eu swyno gan fyd ble mae cymeriadau'n medru gwneud rhyfeddodau. Dyma Narnia C. S. Lewis a Middle Earth Tolkien y Cymry. Mae darnau o’r chwedlau ynghyd â’u cymeriadau yn gorwedd yn ddwfn yn ein cof a’n dychymyg. Ac fel pob stori dda, rydym yn gofyn am gael ei chlywed eto ac eto er mwyn ymgyfarwyddo â’r manylion; rhai’n ogleisiol ac eraill yn frawychus. Dyma gyfle felly i ddarllen am gymeriadau cyfareddol megis Bendigeidfran y cawr, Blodeuwedd y ferch o flodau a Rhiannon. Y gyntaf o’r chwedlau yw Pwyll Pendefig Dyfed, yna ceir Branwen Ferch Llŷr, Manawydan Fab Llŷr ac yn olaf Math Fab Mathonwy. Dyma gyfrol werthfawr i bob myfyriwr a phlentyn ysgol sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg.

View full details