Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Gwir yn Erbyn y Byd

Y Gwir yn Erbyn y Byd

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel sy'n cyfuno bywyd cyfoes Ceri a hanes bywyd Iolo Morganwg. Mae Ceri'n wynebu ei heriau ei hun wrth orfod symud o'r gogledd i'r de, oherwydd i'r mam a'i thad wahanu.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel that combines Ceri's contemporary life and the life story of Iolo Morganwg.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845248154
Gwales Code
gwales.com.9781845248154
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Gwir yn Erbyn y Byd
Awdur / Author
Maddocks, Llio
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2026-06-30
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
230 pages
Size
128 × 198 mm; depth 12 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C020637

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Bardd ac awdur yw Llio Elain Maddocks yn wreiddiol o Lan Ffestiniog. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Twll Bach yn y Niwl (y Lolfa, 2020), restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021 yn y categori ffuglen, ac fe'i dewiswyd i Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn hwyrach y flwyddyn honno. Mae wedi cyhoeddi llyfr i blant, Y Môr Leidr a Fi (Y Lolfa, 2019) a llyfr i oedolion sy’n ddarllenwyr newydd, Un Noson (Y Lolfa, 2021) fel rhan o gyfres Stori Sydyn. Bu’n addasu i’r Gymraeg gyfres o lyfrau i blant 7-12 mlwydd oed, Genod Gwyrdd: Ffasiwn Sioe a Genod Gwyrdd: Achub Afon (Rily Publications, 2023 a 2024), a llyfr ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, Secs ac Ati, wedi ei selio ar y gyfres Netflix boblogaidd, Sex Education (Rily Publications, 2022). Mae ei cherddi i’w gweld ar ei thudalen Instagram (@llioelain), a chyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Stwff ma hogia ‘di deud wrtha fi (Cyhoeddiadau’r Stamp) yn 2021. Mae ei cherddi wedi ymddangos mewn nifer o gyfrolau megis Curiadau (Barddas 2023), Mae Gêm yn fwy na Gêm (Barddas, 2024), Cariad (Barddas, 2023), Gair o Galondid (Gwasg y Bwthyn, 2022), ymysg cyfrolau eraill. Mae hi’n cystadlu yn aml ar Talwrn y Beirdd fel aelod o dim y Ffoaduriaid, ac mae wedi ymddangos fel Bardd y Mis ar BBC Radio Cymru yn y gorffennol. Yn ei gwaith bob dydd, mae hi’n Gyfarwyddwr y Celfyddydau gydag Urdd Gobaith Cymru, ac yn gyfrifol am gynnig profiadau celfyddydol drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2014, a derbyniodd Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru yn 2019. Mei Mac - Mae'n gartwnydd dawnus ac eisoes wedi gwneud gwaith i'r Wasg gan gynnwys darlunio 'Chwedlau'r Pysgod' a 'Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion,' yn yr arddull yma. Ef fu'n gyfrifol am glawr 'Y Ferch ar y Cei,' ac am ddarluno 'Straeon Hynod yn ein Hanes.'

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Gan fod Ceri wedi symud i fyw i dde Cymru gyda’i mam ar ganol tymor ysgol, yn dilyn Y Digwyddiad, mae pethau’n anodd iddi yn ei hysgol newydd. Nid yw cyngor ei mam i gadw dyddiadur yn help o gwbl. Ond pan gaiff y dosbarth Hanes dasg i greu prosiect ymchwil ar Iolo Morganwg, mae Ceri’n dysgu cymaint amdani hi ei hun ag y mae hi am y cymeriad hanesyddol hynod. Nofel yw hon sy’n gwau ffaith a ffuglen, hanes a hiwmor, drwy blethu dyddiadur cyfoes Ceri gyda’r prosiect hanes. Wrth gyflwyno anturiaethau Iolo Morganwg, mae’r awdur yn dangos y gall hanes fod yn ddrych i fywydau a phrofiadau Cymry ifanc heddiw. Adolygiad: Roedd darllen dyddiadur Ceri fel ailymweld â fi fy hun yn fy arddegau ar adegau. Gwir fy mod i erioed wedi symud i’r de, gorfod ymdopi â sefyllfa deuluol heriol na gwneud prosiect am Iolo Morganwg, ond roeddwn i yn cadw dyddiadur a hwnnw yn edrych a swnio yn union fel un prif gymeriad y nofel hynod hon i blant yn eu harddegau. Mae’r cynhesrwydd a’r agosatrwydd y mae Llio Maddocks yn llwyddo i’w gyfleu drwy ddyddiadur Ceri yn plethu yn gampus â hanes Iolo Morganwg. Pendilia’r nofel rhwng dyddiadur Ceri, sydd newydd symud o’r gogledd i fro mebyd ei mam ym Mro Morgannwg, a dyddiadur dychmygol un o’i chyndeidiau oedd hefyd yn un o gyfoedion Iolo Morganwg. Gan fod prosiect hanes ei dosbarth yn ei hysgol newydd yn gofyn am ganolbwyntio ar Iolo Morganwg, mae Ceri yn penderfynu mai dyddiadur Owain Sion, yn trafod hynt a helynt y gŵr wnaeth ffurfio Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, fyddai ei phrosiect hi. Dyma strwythur ffres a chlyfar i nofel hanesyddol, ac mae’r plethu rhwng y ddau ddyddiadur yn llifo yn naturiol ac yn llwyddo i gynnal diddordeb o’r dechrau i’r diwedd. Er bod dwy stori yn cyd-redeg ac y byddai hynny wedi gallu mynd yn ddryslyd, mae adnabyddiaeth yr awdur o’i chymeriadau yn y ddau gyfnod yn atal hynny rhag digwydd. Dwi’n amau y byddai plant a phobol ifanc yn eu harddegau yn mwynhau hwyl a hud Iolo Morganwg dychymyg gwyllt Iolo Morganwg, ac yn gallu uniaethu â theimladau a phrofiadau Ceri. Roedd y llyfr hefyd yn apelio ata i, fel oedolyn, ac er bod gen i syniad go lew o hanes Iolo roedd cryn dipyn o’r ffeithiau amdano yn newydd i mi. Teimlais fod lefel yr elfennau hanesyddol yn uchel a manwl, ond eto yn ddigon addas i bobol ifanc ei fwynhau heb deimlo eu bod nhw yn darllen llyfr hanes. Mewn rhannau, mae stori Ceri a’i chyfeillion – a’i gelynion – newydd yn mynd i lefydd teimladwy a chaled wrth i broblemau bydoedd blêr yr oedolion dreiddio lawr i’r genhedlaeth nesaf. Mae’r rhannau hyn yn cael eu gwrthbwyso gan ddiniweidrwydd ein storïwr bron bob tro, ac fel mae’r Ceri ifanc yn gwibio o un peth i’r llall yn ei dyddiadur dydy sylw’r darllenydd byth ar y drwg yn rhy hir chwaith. Un o elfennau cynhesaf y llyfr, yn ogystal â chyfeillgarwch Ceri â’i ffrindiau newydd, yw’r berthynas rhwng y ferch a’i thaid. Iolo Morganwg yw’r llinyn sydd yn tynnu nhw yn agosach, a’i hanes sydd yn cryfhau gwerthfawrogiad Ceri o’i chynefin newydd. Llwyddodd Y Gwir yn Erbyn y Byd i hoelio fy sylw o’r dechrau i’r diwedd drwy’r ddau linyn storïol cryf a’i storïwr annwyl. Mae’r llyfr yn drysor i unrhyw berson ifanc sydd yn mwynhau hanes ac unrhyw un sydd gan ddychymyg mor fywiog ag Iolo Morganwg.

View full details