Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Goeden Ioga

Y Goeden Ioga

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Llyfr stori a llun sy'n cyflwyno symudiadau ioga syml i blant ac oedolion. Mae'r llyfr annwyl hwn yn mynd â ni i fyd natur a chylch bywyd yr hedyn wrth iddo egino a thyfu'n goeden fawr gryf a thyfu dail. Buan iawn daw'r Hydref a'i wynt i chwythu'r hadau ac ailgychwyn ar gylch bywyd natur unwaith eto.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A story and picture book which introduces simple yoga positions to children and adults. This book takes us to the world of nature and the life cycle of the seed as it sprouts and grows into a big strong tree and grows leaves. But quickly the Autumn comes and the wind blows the seeds away and begins the circle anew.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785622199
Gwales Code
gwales.com.9781785622199
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Goeden Ioga
Awdur / Author
Mererid, Leisa
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-04-19
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Darlunydd / Illustrator
Davies, Cara
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
244 × 245 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg sy’n cyflwyno ioga i blant a’u teuluoedd. Mae’r clawr yn denu’r llygad yn syth, gyda’i liwiau modern, heddychlon. O agor y clawr, mae yno gyflwyniad byr yn egluro beth yn union yw ioga, pam ei fod yn neud lles i ni, ac ychydig o hanes yr ymarfer sydd wedi bod o gwmpas ers o leiaf 5000 o flynyddoedd! Yn y croeso hefyd mae gair am beth i’w wisgo a sut dylid mynd ati i gael y gorau allan o sesiwn ioga. Fel ymarferydd ioga (achlysurol!) fy hun, roeddwn wrth fy modd o ddarganfod y llyfr hwn. Wedi hen arfer ar gael fy mhlant yn neidio ar fy nghefn yn ystod fy ymgais at wneud y symudiad downward facing dog , roedd hi’n hen bryd iddynt gael tro eu hunain! Mae Leisa Mererid wedi taro ar arddull hyfryd i esbonio ioga syml i blant trwy ein harwain ar daith hedyn bychan yn tyfu’n ara deg mewn i goeden gadarn, gan gwrdd y creaduriaid sy’n chwarae oddi tani ar hyd y ffordd. Mae darluniau tawel, arbennig Cara Jones yn serennu, gan gynnig rhywbeth newydd ar bob darlleniad. Yn wir mae’n bosib darllen y llyfr hardd hwn fel stori cyn gwely ar ei ben ei hun, neu ei ddilyn fel canllaw gyfleus ar gyfer y siapiau ioga yn unig. Ond fel cyfuniad o’r ddau oedd orau gan fy merch 7 oed a minnau. Roeddem yn darllen y stori gan wneud y symudiadau ioga ar yr un pryd, ac ar ôl sawl darlleniad, roedd penillion y testun yn dechrau aros yn y cof a ninnau’n gallu aros a mwynhau’r siâp heb orfod codi pen. Mae cyfle yma am gyfres yn fy marn i. Gyda mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar plant a phobl ifanc y dyddiau hyn, gobeithio cawn weld mwy o lyfrau tebyg i Y Goeden Ioga yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn.

View full details