Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd

Y Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd

Regular price £4.95 GBP
Regular price Sale price £4.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae'r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, ac mae llond lle o waith i'w wneud yn yr ardd, ond mae'r Ci Bach dan draed! Wel, dyna mae'r Dyn Dweud Drefn yn ei feddwl, o leia'. Ond tybed a fydd y Ci Bach yn medru rhoi help llaw i'r Dyn Dweud Drefn wedi'r cwbl?

Disgrifiad Saesneg / English Description

The man who can give you a telling off is back, there's loads of work to be done in the garden, but the little puppy is under his feet. But will the little puppy be able to help him after all?

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845277345
Gwales Code
gwales.com.9781845277345
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd
Awdur / Author
Lynch, Lleucu
Current Price ex VAT
£4.95
Current Price inc VAT
£4.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-12-02
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Darlunydd / Illustrator
Millward, Gwen
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
68 pages
Size
135 × 146 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae LLEUCU LYNCH yn enedigol o ardal Llangwm. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 2017. Fel rhan o'i chwrs dilynodd fodiwl Ysgrifennu Creadigol, ble lluniodd bortffolio o lenyddiaeth i blant, ac yn portffolio hwnnw y gwelodd Y Dyn Dweud Drefn olau dydd am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Swyddog y Wasg gydag S4C yng Nghaernarfon.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Wel, mae’r dyn bach blin a byr ei amynedd yn ei ôl yn ail gyfrol Lleucu Fflur Lynch a Gwen Millward yn y gyfres Y Dyn Dweud Drefn. Y tro hwn, mae e allan yn yr ardd yn dwrdio a chwyno ac yn gweiddi nerth esgyrn ei ben wrth i bethau fynd o le. Mae’n ddiwrnod braf ac mae gan y Dyn Dweud Drefn waith i’w wneud. Mae angen rhoi dŵr i’r blodau, codi tatws o’r pridd a chasglu afalau o frigau’r goeden. Ond wrth gwrs, mae yna broblem yn ei wynebu bob tro. Mae’r beipen ddŵr yn rhy fyr ac yn methu cyrraedd y blodau, mae codi’r tatws yn waith anodd a blinedig, ac mae brigau’r goeden yn rhy uchel iddo eu cyrraedd, felly does dim byd yn mynd o’i blaid. Yn ffodus wrth gwrs, mae Ci Bach wrth law i helpu, ond y broblem yw nad oes croeso iddo yn yr ardd. Mae’r Dyn Dweud Drefn wedi gosod arwyddion ‘Dim Cŵn’ o gwmpas y lle i wneud yn siŵr nad oes neb arall yn cael mynd yno heblaw amdano fe ei hun. Dyna pam y mae’n gwylltio o weld Ci Bach, wrth i hwnnw redeg i’r ardd i weld beth yw’r holl halibalŵ o hyd. Ond tybed a all Ci Bach ei helpu ac a fydd y ddau’n ffrindiau eto erbyn diwedd y stori? Dyma stori hyfryd am gyfeillgarwch, ac am y modd y gall rhagfarnau hyd yn oed y rhai mwyaf penderfynol gael eu newid yn raddol. Heb ddatgelu’r cyfan, mae hyd yn oed y Dyn Dweud Drefn yn llwyddo i wenu erbyn diwedd y stori. Mae lluniau lliwgar Gwen Millward yn llawn hiwmor, sbort a sbri ac yn wrthbwynt hyfryd i olwg sarrug y Dyn Dweud Drefn. Mae Ci Bach yn gymeriad hoffus a bywiog sy’n dod â sbarc i’r stori a’r lluniau ac yn dangos yn glir cymaint o ffrind y gall anifail anwes fod. O ran y testun, mae’r stori’n dilyn yr un patrwm â’r llyfr cyntaf, gydag ailadrodd patrymau ac ymadroddion, ac er nad oes deialog o gwbl yn y stori, mae’r dweud yn ddigon bywiog i gynnal diddordeb tan y diwedd. Cyfrol fach hylaw a hwylus arall yn y gyfres.

View full details