Cyngor Llyfrau Cymru
Y Dyn Dweud Drefn
Y Dyn Dweud Drefn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dewch i 'nabod y Dyn Dweud Drefn. Mae sawl person i'w ddwrdio bob dydd am ryw hafoc neu gilydd. Gwyliwch chi eich hun, neu mi fydd y Dyn Dweud Drefn ar eich ôl!
Disgrifiad Saesneg / English Description
An original, illustrated book for young children about the man who is giving somebody a telling off daily. But make sure you behave, or he will be after you!
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845276454
- Gwales Code
- gwales.com.9781845276454
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Dyn Dweud Drefn
- Awdur / Author
- Lynch, Lleucu Fflur
- Current Price ex VAT
- £4.95
- Current Price inc VAT
- £4.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-10-08
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Darlunydd / Illustrator
- Millward, Gwen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 66 pages
- Size
- 135 × 146 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Beth am ddechrau gyda golwg gyntaf ar y gyfrol? Dyma i chi lyfr sy’n hyfryd i’w ddal yn eich llaw! Mae’n faint ychydig yn anarferol am lyfr clawr meddal, efallai – yn sgwaryn bach twt sy’n berffaith i ddwylo plant bach oed cynradd. Roeddwn i’n meddwl fod y clawr yn ddeniadol, diolch i’r darlun gan Gwen Millward, sy’n dangos dyn blin a chi bach. Ac, ynghyd â’r teitl, mae’n llwyddo i godi chwilfrydedd. Beth yn y byd all achosi i ddyn fod mor biwis ag y mae’r llun yn ei ddangos, gyda’i freichiau wedi’u gosod mewn ystum mor flin, tybed? Ro’n i wrth fy modd o’r cychwyn efo lluniau Gwen Millward; maen nhw’n gweddu’n berffaith i’r stori. Dyma gyfrol gyntaf yr awdur Lleucu Fflur Lynch, ac mae hi wedi creu byd bach digon syml ond effeithiol iawn trwy stori a chymeriad y Dyn Dweud Drefn. Wrth gwrs, mae o’n ddyn drwg ei dymer sy’n hoff o ddwrdio ac yn treulio’i ddyddiau’n cwyno am unrhyw beth a phopeth. Gallech dybio nad ydi’r Dyn Dweud Drefn yn hapus os nad ydi o’n dweud y drefn! Hynny ydi, nes i gi bach annwyl ddod i’w fywyd a’i orfodi i feddwl am bethau eraill, ei ddifyrru a dwyn ei sylw fel nad yw’n dweud y drefn am ddiwrnod cyfan. Mae’n teimlo’n groes disgrifio hanes dyn blin fel hyn fel stori annwyl a hoffus, efallai, ond gyda chymeriad bach diniwed y ci, a’i ddylanwad ar fywyd y Dyn Dweud Drefn, mae hon yn gyfrol hyfryd. Dw i’n siŵr y bydd plant bach sy’n dechrau darllen wrth eu bodd. Mae hi’n stori hawdd gwrando arni hefyd, i blant sydd efallai ddim am ei darllen yn annibynnol a, diolch i’r elfennau o ailadrodd ac adeiladu byd bach y Dyn Dweud Drefn a’i arferion dyddiol, mae’n syml i’w dilyn ac yn gyfle gwych i helpu plant sydd eisiau magu hyder wrth ddarllen ar eu pennau eu hunain. Mae hon yn gyfrol hyfryd a difyr i blant ifanc, ond dw i hefyd yn meddwl y byddai oedolion yn mwynhau ei chyflwyno i ddarllenwr iau, fel y gwnes innau. Mi fydda i’n edrych ymlaen yn eiddgar at lyfr nesaf Lleucu Fflur Lynch yn y dyfodol agos.
Share
