Cyngor Llyfrau Cymru
Y Dychryn Angenrheidiol / The Necessary Terror
Y Dychryn Angenrheidiol / The Necessary Terror
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
"Mae Aled Jones Williams yn llais barddonol cwbl nodedig yng Nghymru gyfoes, ond dim ond yn araf y mae siaradwyr Saesneg yn cael eu cyflwyno i'w waith. Mae'r fersiwn craff a grymus gan Wynn Thomas yn rhoi canllaw o'r radd flaenaf i fardd ac awdur rhyddiaith o statws, dyfnder, ffraethineb a dwyster prin." Rowan Williams, Cyn Archesgob Caergaint
Disgrifiad Saesneg / English Description
"Aled Jones Williams is a completely distinctive poetic voice in contemporary Wales, but English-speakers are only slowly being introduced to his work. The acute and forceful renderings by Wynn Thomas provide a first-rate guide to a poet and prose writer of rare stature, depth, wit, and poignancy." Rowan Williams, Former Archbishop of Canterbury
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781068298714
- Gwales Code
- gwales.com.9781068298714
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Dychryn Angenrheidiol / The Necessary Terror
- Awdur / Author
- Williams, Aled Jones
- Current Price ex VAT
- £14.00
- Current Price inc VAT
- £14.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-02-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- H'mm Foundation
- Translator
- Thomas, M. Wynn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 116 pages
- Size
- 135 × 200 mm; depth 14 mm
- Language Code
- Welsh; English
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- FSC Status
- No FSC or PEFC logo/certification declared
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Aled Jones Williams Yn Eisteddfod Genedlaethol Tŷ Ddewi, 2002, yr enillodd Aled Jones Williams y goron am y bryddest Awelon. Fel dramodydd yr adwaenid ef bennaf cyn hynny. Ymhlith ei ddramau mae Sundance, Wal, Pryd Fuo Kathleen Ferrier Farw a Iesu! Enwebwyd-chwe gwaith- rhai o’i gyfrolau rhyddiaith ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn, yn eu plith: Yn Hon Bu Afon, Unwaith, a Raffl a Storiau Eraill. Erbyn hyn mae’n canolbwyntio ar farddoniaeth a'r stori fer. Ei gyfrolau diweddaraf yw Colin yn y Bys Sdop, a ffurf ar gyffes grefyddol: Reit Rownd. Yn fab Y Ficerdy, bu ef ei hun am gyfnod yn berson plwy'. Yr oedd hefyd yn aelod o gymuned L’Arche yn Lerpwl. M. Wynn Thomas Athro Emeritws y Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yw M. Wynn Thomas. Mae’n Gymrawd yr Academi Brydeinig, ac yn Gymrawd (a Chyn Is-Lywydd) Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a bu ddwywaith yn Athro ar Ymweliad ym Mhrifysgol Harvard. Bu'n Gadeirydd y Cyngor Llyfrau am yn agos i ugain mlynedd, a chyn hynny yn Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyhoeddwyd dwy gyfrol ganddo am y bardd Americanaidd mawr Walt Whitman, ynghyd â dau ddwsin o gyfrolau yn trin dwy lenyddiaeth Cymru. Dyfarnwyd un o Wobrau Llyfrau'r Flwyddyn yng Nghymru iddo yn 2018 am ei gyfrol All That is Wales, ac mae ei gyfrol boblogaidd The History of Wales in Twelve Poems wedi gwerthu'n eithriadol dda. Dros y blynyddoedd cyfranodd yn gyson i radio a theledu. The Art of Losing (2025) yw ei gyfrol ddiweddaraf.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Aled Jones Williams In 2002 at the National Eisteddfod held at St Davids, Aled Jones Williams won the crown for a long poem (pryddest) entitled Awelon (Breezes). Prior to that he was best known as a dramatist working in Welsh-language theatre. Amongst the plays are: Sundance, Tiwlips, Merched Eira, Iesu! (Jesus!) Some of his prose works – mostly short fiction and part memoir – have been nominated for the Welsh Book of the Year six times. By now he concentrates on poetry and the Very Short Story, his most recent work being a series of inter-connecting stories in that vein, Colin yn y Bys Sdop, as well as a confessional work, Reit Rownd. Brought up in a Vicarage, he himself spent some years in parish ministry. He was also for a time a member of the L’Arche Community in Liverpool. M. Wynn Thomas Emeritus Professor of English at Swansea University. He is a Fellow of the British Academy and a Founding Fellow of the Learned Society of Wales, and has twice been Visiting Professor at Harvard. He is former Chair of the Books Council of Wales, former member of the Arts Council of Wales, and former Vice President of the Learned Society of Wales. The author of two studies of Whitman, he has published two dozen studies of the two literatures of Wales. His All That is Wales was a Welsh Book of the Year in 2018 and The History of Wales in Twelve Poems (2023) proved a popular success. He has contributed extensively to both radio and television. His latest publication is The Art of Losing (2025).
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
‘Mae’r cerddi bach enigmatic hyn yn arbrofion mewn ffydd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain; myfyrdodau ar barhad rhyfedd y gair ‘duw’ yng ngeirfaon gwledydd cyfoes y Gorllewin sy’n ymddangos yn drwyadl secwlar. Cyn iddo ymddeol o’r Eglwys yng Nghymru, bu Aled Jones Williams yn berson plwyf olaf R.S.Thomas, ac mae’r cerddi yn brawf ei fod yn olynydd barddonol teilwng i’w rhagflaenydd mawr. Y mae’r Gwir Barchedig Rowan Williams ymhlith ei edmygwyr pennaf. Dyma’r tro cyntaf i’r cerddi, ynghyd â’r cyfieithiadau, ymddangos mewn print, felly mae’r gyfrol hon yn garreg filltir nodedig.’ M. Wynn Thomas, Athro Emeritws y Saesneg Prifysgol Abertawe
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
‘These enigmatic little poems are experiments in faith suitable for the twenty-first century; meditations on the mysterious survival of the word ‘god’ in the vocabulary of avowedly secular modern societies. Before resigning from the Welsh Anglican clergy, Aled Jones Williams was R.S. Thomas’s parish priest during his last years, and his remarkable poetry confirms him to be a worthy heir of his great predecessor. The Very Reverend Rowan Williams, former Archbishop of Canterbury, is one of his most prominent admirers. Neither these poems nor the translations have appeared in print before. So this is a landmark volume.’ M. Wynn Thomas, Emeritus Professor of English, Swansea University
Share
