Cyngor Llyfrau Cymru
Y Ddraig yn y Cestyll
Y Ddraig yn y Cestyll
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Gwen a Gruff yn wynebu ymgyrch heriol! Maen nhw'n ymweld ag ugain o gestyll ledled Cymru. Yn gydymaith iddynt mae hen faner Mam-gu - Draig Goch sy'n golygu llawer iddi.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Gwen and Gruff are undertaking a challenging campaign! They are visiting twenty Welsh castles, accompanied by the Red Dragon, the Welsh national standard, that belonged to their grandmother.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845276812
- Gwales Code
- gwales.com.9781845276812
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Ddraig yn y Cestyll
- Awdur / Author
- Dafydd, Myrddin ap
- Current Price ex VAT
- £7.50
- Current Price inc VAT
- £7.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-03-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Darlunydd / Illustrator
- Lliff, Chris
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 84 pages
- Size
- 210 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hanes ac Enwogion (yn Gymraeg) | EN: History and Famous People (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn y blog maen nhw'n ei gofnodi ar eu teithiau, cawn gip ar arwyddocâd y cestyll yn hanes Cymru a thipyn o'r hwyl sy'n codi o droeon trwstan ac o gyfarfod cymeriadau arbennig yn ystod y teithiau. Ceir ymateb i'r blog gan Nain/Taid/Tad-cu/Mam-gu a mêts y ddau blentyn. Cestyll Cymru Mae pob castell yng Nghymru yn destun rhyfeddod – ac yn llawn dirgelwch a hanesion. Mae rhai ohonynt yn rhan o Safle Treftadaeth Byd cyntaf Cymru – cestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech. Daeth penseiri a pheirianwyr gorau Ffrainc yma i greu campweithiau mewn cerrig yn y cyfnod Normanaidd. Bu bron i’r hwch fynd drwy siop Edward I gan eu bod yn godro cymaint o arian o’i bwrs brenhinol. Mae cestyll eraill wedi’u codi gan dywysogion Cymreig i amddiffyn eu tiroedd a’u pobl yn eu rhyfel 200 mlynedd yn erbyn y Normaniaid. Mae 800 mlynedd o hanes Cymru yn y cestyll hyn. Mae gan bob un ei stori ei hun yn ogystal. Yn y gyfrol hon, mae lluniau a darluniau lliw a naratif sy’n troi o amgylch ymweliadau un teulu ag 20 o gestyll Cymreig yn cyflwyno rhyfeddodau’r safleoedd a hefyd yn adrodd yr hanesion sy’n perthyn iddyn nhw. Mae nodweddion pensaernïol y cestyll yn cael eu dangos a’u hesbonio – e.e. barbican, garderobe, tourelle. Cawn hanes y brenhinoedd a’r arglwyddi Normanaidd oedd yn gymaint rhan o bresenoldeb y cestyll yng Nghymru. Ond yn ogystal, mae’r plant, wrth ymweld â’r cestyll, yn dod ar draws hanesion coll a thraddodiadau cudd am y Cymry a’r gymdeithas leol.
Share
