Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Cysgod yn y Cof

Y Cysgod yn y Cof

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma nofel lawn tensiwn, dirgelwch a chyffro, sydd yn symud rhwng dau gyfnod - nawr a chyfnod y 1960au/1970au. Ar ôl llawdriniaeth, mae Caerwyn wedi anghofio cyfnod o'i orffennol ond daw'r atgofion yn ôl fesul dipyn gyda chymorth ei ferch, Heulwen. Ond wrth i'r darnau ddisgyn i'w lle, mae'n rhaid i Caerwyn ail fyw ei orffennol cythryblus - y trais, yr euogrwydd a'r tor calon.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel full of tension, mystery and excitement, that moves between two periods - the present and the 1960s/70s. After surgery, Caerwyn has forgotten periods in his past but, with the help of his daughter, Heulwen, his memory returns step by step. During the process, Caerwyn has to relive his troubled past - the violence, guilt and heartbreak.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800995697
Gwales Code
gwales.com.9781800995697
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Y Cysgod yn y Cof
Awdur / Author
Morris, Bob
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2024-06-18
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
288 pages
Size
135 × 210 mm; depth 21 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Hanesyddol, Geltaidd ac Arthuraidd (yn Gymraeg) | EN: Historic, Celtic and Arthurian Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Bob Morris yn hanesydd, yn awdur ac yn ddarlithydd. Mudiadau protest gwerin yw un o'i brif ddiddordebau ers nifer o flynyddoedd, ac mae'n awdur nifer o werslyfrau a phecynnau addysgiadol i ysgolion. Bu'n darlithio mewn Hanes yn y Coleg Normal a Phrifysgol Bangor, a chlywir ei lais yn aml ar y radio yn rhoi cyd-destun hanesyddol i faterion y dydd. Mae'n byw ym Mhenygroes.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Gyda’i chlawr melyn fel haul yr haf, yr addewid o stori ddirgelwch fydd yn neidio rhwng gwersyll gwyliau yn y 1960au a’r presennol, ac arddull afaelgar sy’n ennyn y darllenydd i ddarllen un bennod arall cyn rhoi’r llyfr i’r naill ochr, mae’r nofel hon yn apelgar o’r cychwyn cyntaf. Ar ddechrau’r nofel yn haf 2020, rydym ni’n cyfarfod Caerwyn Rowlands, dyn 75 oed sydd newydd adael yr ysbyty yn dilyn llawdriniaeth fawr, ac wedi anghofio cyfnod o’i ieuenctid ym Mhen Llŷn. Yn ystod y rhannau hynny o’r stori sy’n digwydd ym mhresennol Caerwyn, rydym yn dilyn ei ymdrechion ef a’i ferch Heulwen i ailddarganfod y cyfnod coll hwnnw o’r 1960au. Ond yn gysgod dros y presennol mae COVID-19, gyda’i farwolaethau lu, y cyfyngiadau, a’r ymdeimlad bod y byd bellach wedi crebachu. Mae’r awdur yn cyfleu i’r dim ddiflastod dibendraw a rhwystredigaethau’r cyfnod hwn, sy’n cael ei adlewyrchu yn rhwystredigaeth Caerwyn am ei anallu i gofio rhan dyngedfennol o’i fywyd. Wrth i gof Caerwyn gryfhau, mae pytiau o’i orffennol fel myfyriwr ifanc yn gweithio yng ngwersyll gwyliau Summerland yn y 1960au, yn torri ar draws llwydni llesg y cyfnod COVID-19. Yma, cawn gyfle i ddod i adnabod Caerwyn yn llanc ifanc, ei gariad Luned, a’u gobeithion am y dyfodol. Cawn hefyd, i ddechrau, ddarlun o’r sbort, sbri a’r miri ystrydebol oedd i’w gael mewn gwersylloedd gwyliau, ond tydi’r hwyl ddim yn parhau’n hir. Wedi iddo ddarganfod lluniau o’i gyfnod yn Summerland, mae mwy o atgofion o’r haf hollbwysig hwnnw yn dychwelyd, a chawn glywed am gyn-filwr, Elwyn Morgan, sy’n gweithio yn y gwersyll gwyliau yn ymosod ar gyd-weithwraig – Sam – a Caerwyn yn camu i’r adwy i ddiogelu Sam a chadw Elwyn yn y ddalfa. Er i Elwyn bledio’n euog i’r cyhuddiad o ymosod ar Sam, nid yw’n cael ei garcharu, ond yn hytrach, yn derbyn dedfryd o garchar wedi’i ohirio. Trwy gydol weddill yr haf, mae Caerwyn a Sam yn ceisio anghofio am Elwyn, ei dymer, ei drais a’i awydd am ddial, ond yn ofer. Ar ôl mudlosgi am bron i ddwy ran o dair o'r stori, mae'n codi i uchafbwynt wrth i’r heddlu a’r gwasanaethau cudd orfod amddiffyn Caerwyn, Luned a Sam rhag Elwyn Morgan. Ar y darlleniad cyntaf, efallai bod rhannau o gynllwyn Elwyn, a chroes-gynllwynio yr heddlu a’r gwasanaethau cudd, yn teimlo braidd yn anghredadwy, ond rhaid cofio cefndir y cyfnod – twf cenedlaetholdeb yng Nghymru, protestiadau cynyddol, a chynllwyn i fomio argae Tryweryn – heb anghofio rôl amheus y gwasanaethau cudd yng Nghymru ers y 1960au. Efallai y byddai eraill yn gweld gormod o drafod gwleidyddiaeth yn y nofel, ond i mi, dyma un o lwyddiannau mawr yr awdur: gallu rhoi profiad ysgytwol Caerwyn, Luned a Sam yn haf 1964 yng nghyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol Cymru yn y 1960au, gydag araith Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, protest Pont Trefechan, a sefydlu Cymdeithas yr Iaith, ynghyd â’r cyd-destun gwleidyddol ehangach ym Mhrydain gydag etholiad cyffredinol 1964, ethol Llywodraeth Lafur a phenodi Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Er hynny, mae cydbwysedd yn y nofel rhwng creu darlun o’r grymoedd allanol – yr heddlu a’r gwasanaethau cudd a’u gweithgareddau sy’n effeithio ar Caerwyn, ei gyfoedion a’i gymuned – a chyfleu canlyniadau gweithredoedd y grymoedd allanol hynny ar bobl gyffredin, sy’n gorfod byw gyda’r goblygiadau am weddil eu hoes. Wrth grynhoi effaith Elwyn Morgan, yr heddlu a’r gwasanaethau cudd ar fywydau Luned, Sam a’u teuluoedd ar ddiwedd y nofel, tydi’r awdur ddim yn syrthio i’r fagl o geisio sicrhau bywydau dedwydd i bawb. Yn hytrach, nae’n dangos y clwyfau corfforol, emosiynol, a meddyliol sydd yn parhau. Dyma nofel sydd wedi llwyddo i bontio’n gelfydd rhwng y gorffennol a’r presennol, y personol a’r gwleidyddol, gan greu cyfanwaith fydd yn aros yn y cof.

View full details