Cyngor Llyfrau Cymru
Y Bwrdd
Y Bwrdd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
'Os daeth un peth da o Brexit, y nofel yma ydi hwnnw!' Dyna eiriau Rhys Iorwerth am Y Bwrdd . Dilynir Carwyn o'r Tymbl sy'n gweithio i'r 'Bwrdd' yng Nghaerdydd ac sy'n bartner i Laticia o Valencia ac yn dad i Awel. Portreadir byd undonog ei swyddfa mewn cyferbyniad â'i angerdd at goginio ac alcohol.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A satirical rom-com about Carwyn's monotonous office life, in complete contrast to his family life with partner Laticia from Valencia and their daughter Awel Abril. The life of the cookery and alcohol lover is turned upside down when a letter arrives ...
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784617967
- Gwales Code
- gwales.com.9781784617967
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Y Bwrdd
- Awdur / Author
- Rhys, Iwan
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-10-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 154 pages
- Size
- 195 × 130 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Ymdrinnir â pheryglon Brecsit a rhoir llais i sawl math o ragfarn a pholemeg gymdeithasol gyfredol.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Magwyd Iwan Rhys ym Mhorthyrhyd ger Caerfyrddin. Adnabyddir ef fel bardd. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith; yn 2001 ac yn 2008. Bu’n rhan o’r daith farddol Crap ar Farddoni yn 2006 gyda Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury. Mae’n aelod o dîm talwrn Dros yr Aber a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion. Dyma ei nofel gyntaf.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Daeth Y Bwrdd yn agos at gipio’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Dywedodd Mererid Hopwood yn ei beirniadaeth: ‘Llwydda i gynnal diddordeb o’r dechrau’n deg tan y gair olaf. Mae’r cymeriadau a’r cynllun yn wreiddiol a’r dweud yn sylwgar-ddychanol... Dyma storïwr wrth reddf.’ Disgrifiwyd Iwan Rhys gan Aled Islwyn fel ‘awdur cyfrwys iawn’. Ac meddai Alun Cob, un arall o’r beirniad: ‘...stori gyfoes sydd yn darllen yn hawdd gyda’r ysgrifennu’n raenus a slic. Hanes effaith Brecsit ar unigolion a’r gymuned a gawn yma; stori garu gyda chymeriadau credadwy yn dod yn fyw oddi ar y dudalen.’
Share
