Cyngor Llyfrau Cymru
Wyth Cân, Pedair Sioe - Caneuon o Sioeau Cerdd — Caneuon o Sioeau Cerdd
Wyth Cân, Pedair Sioe - Caneuon o Sioeau Cerdd — Caneuon o Sioeau Cerdd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol o wyth cân allan o bedair sioe gerdd a gyfansoddwyd gan Robat Arwyn - 'Rhys a Meinir', 'Iarlles y Ffynnon', 'Plas Du' a 'Pwy bia'r gân?'. Mae'n cynnwys nodiadau cefndir i bob un o'r caneuon a'u gosod mewn cyd-destun o ran stori'r sioeau gwahanol.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A collection of songs from four of Robat Arwyn's musicals - 'Rhys a Meinir', 'Iarlles y Ffynnon', 'Plas Du' and 'Pwy bia'r gân?'. The songs include word by Hywel Gwynfryn and Robin Llwyd ab Owain, as well as summaries of the shows and background notes by the composer.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847712653
- Gwales Code
- gwales.com.9781847712653
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Wyth Cân, Pedair Sioe - Caneuon o Sioeau Cerdd — Caneuon o Sioeau Cerdd
- Sub Title
- Caneuon o Sioeau Cerdd
- Awdur / Author
- Arwyn, Robat
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-07-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Editor
- Edwards, Meinir Wyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 210 × 297 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Music and Songs (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Canu Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Pop Music (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gyfrol a fydd yn haeddu ei lle ar silff holl athrawon cerdd, tiwtoriaid llais, pwyllgorau eisteddfodau, ysgolion uwchradd a phawb sy'n hoff o'r genre poblogaidd hwn o ganu. **************************************** Caneuon Sioeau Cerdd Hudol Robat Arwyn Mae’r gystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd wedi datblygu i fod yn un o’r cystadlaethau mwyaf poblogaidd ymhlith cystadleuwyr a chynulleidfaoedd mewn Eisteddfodau. Dyma gyfrol sy’n cynnwys addasiadau newydd o ganeuon o sioeau cerdd Cymraeg fydd yn sicr o apelio at unawdwyr sydd am swyno cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd. Mae’r gyfrol Wyth Gân, Pedair Sioe gan Robat Arwyn yn cynnwys wyth cân o’r sioeau poblogaidd Rhys a Meinir, Iarlles y Ffynnon, Plas Du a Pwy Bia’r Gân? Mae’r caneuon yn cynnwys geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd ab Owain yn ogystal â chrynodeb o stori’r sioeau a nodiadau cefndir gan y cyfansoddwr i bob cân. Mae cyfeiliant piano Robat Arwyn yn ychwanegu at naws hudol y caneuon. Wrth i fwy a mwy o bobl ifanc gael eu denu gan oleuadau neon y theatrau dyma gyfrol o glasuron gwreiddiol Cymraeg gan un o gyfansoddwyr disgleiriaf a mwyaf poblogaidd Cymru. Mae Robat Arwyn sy’n wreiddiol Ddyffryn Nantlle, ond bellach yn byw yn Rhuthun, wedi cyhoeddi deg cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl a naw sioe gerdd. Un o’i weithiau enwocaf yw Atgof o’r Sêr a gyfansoddwyd ar gyfer Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun. Rhyddhawyd ei gân Benedictus ar gryno-ddisg The Priests yn 2008 gan gyrraedd rhif un yn siartiau clasurol yr Unol Dalaethiau a Phrydain. Mae’r gyfrol wedi ei rhwymo yn sbeiral er mwyn agor yn rhwydd ar y piano.
Share
