Cyngor Llyfrau Cymru
Un yn Ormod — Profiadau Pobl am eu Perthynas Ag Alcohol
Un yn Ormod — Profiadau Pobl am eu Perthynas Ag Alcohol
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Angharad Griffiths wedi casglu hanesion ingol gan unigolion sydd wedi cael problemau gydag alcohol yn y gorffennol. Mae 13 o gyfranwyr yn trafod yn onest eu perthynas â diod, ac yn rhannu eu profiadau o godi o'r gwaelod dwfn a phenderfynu na fyddan nhw byth eto yn cael un yn ormod.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Angharad Griffiths has compiled a selection of agonising stories by individuals who have, in the past, had issues with alcohol. 13 contributors discuss frankly their relationship with alcohol, sharing their experiences of picking themselves up from a deep darkness and resolving not to touch another drop.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784618711
- Gwales Code
- gwales.com.9781784618711
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Un yn Ormod — Profiadau Pobl am eu Perthynas Ag Alcohol
- Sub Title
- Profiadau Pobl am eu Perthynas Ag Alcohol
- Awdur / Author
- Lolfa, Y
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-08-04
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Editor
- Griffiths, Angharad
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Size
- 140 × 215 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Atgofion a Hunangofiannau - Cymysg (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Mixed (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyfrol sydd yn ymdrin â phrofiadau pobl a’u perthynas ag alcohol yw Un yn Ormod . Ceir cyfraniadau gan 13 unigolyn, gydag un bennod wedi’i hysgrifennu gan olygydd y gyfrol, sef Angharad Griffiths. Yn debyg i gyfrolau blaenorol y Lolfa megis Galar a Fi , Codi Llais , Gyrru Trwy Storom a Byw yn Fy Nghroen , mae dyfyniad ysbrydoledig a pherthnasol rhwng pob pennod ynglŷn â dibyniaeth gan unigolion adnabyddus megis Matthew Perry, Brené Brown a’r diweddar Robin Williams. 'Alla i ddim cyfleu pa mor falch ydw i o gael llyfr yn trafod alcohol yn fy mamiaith' – dyma sut mae Ffion Dafis yn agor y gyfrol yn ei rhagair, ac mae geiriau Ffion yn cyfleu fy nheimladau i i’r dim. Yn bersonol, fel un sydd o blaid torri tabŵs o fewn ein cymdeithas, mae o’n chwa o awyr iach i mi gael darllen profiadau gonest, diflewyn-ar-dafod yn Gymraeg am bwnc hynod sensitif sydd, yn anffodus, yn parhau i fod ynghlwm â stigma. Rhy Ffion fewnwelediad agored i’r darllenwyr am yr hyn sydd yn eu disgwyl, drwy esbonio bod cynnwys y gyfrol hon yn ddoniol, yn ddwys ac yn dorcalonnus ar adegau, 'ond yn fwy na dim, yn llawn gobaith'. Ysgrifau oedd y dull a ddewiswyd gan y mwyafrif o gyfranwyr er mwyn rhannu eu profiadau unigryw, gydag ambell eithriad. Er enghraifft, fe ddewisodd yr awdur a'r dramodydd Rhiannon Boyle ysgrifennu ‘Sobor: Act 1–5’ – darn dirdynnol mewn pum act sydd yn crynhoi ei thaith deimladwy a heriol o alcoholiaeth tuag at sobrwydd. Cerdd fywiog sydd gan Owain Williams yn ‘Sgriblo’n Sobor’ sydd yn egluro’r dinistr a achosir gan alcohol i fywyd unigolyn – yn ariannol ac yn gorfforol, dinistr sy’n cael ei guddio gan amlaf dan ffasâd hwyl y ‘dathlu’. Mae’r bennod olaf, ‘Torri Tir Newydd: Dewis Peidio Yfed yn 27 Oed’, wedi’i hysgrifennu ar ffurf dyddiadur gan Elin Meredydd. Dechreua ym Mehefin 2020 ac yna cawn ein tywys am yn ôl hyd at Ragfyr 2019. Gyda’r defnydd o regfeydd ac iaith lafar ogleddol, mae o bron yn teimlo fel pe bai Elin yn siarad yn uniongyrchol â mi, ac mae’r gonestrwydd amrwd hwn yn nodweddu'r gyfrol gyfan. Dydi hon yn sicr ddim yn gyfrol hawdd i unrhyw un ei darllen, ond mae’n bwysig imi bwysleisio bod pob cyfraniad wedi fy nghyffwrdd. Mae'n gyfrol deimladwy a chignoeth, ac yn bwysicach na hynny, mae hi’n gyfrol sydd yn agor y sgwrs ymhellach ynghylch ein perthynas ni yng Nghymru ag alcohol. Diolch i Angharad am gasglu’r deunydd a chyfrannu ei stori ei hun, i Swci Delic am ddylunio clawr mor drawiadol o hardd, ac i’r holl gyfranwyr am eu parodrwydd i agor trafodaeth ar bwnc anodd ond yn un sy’n fwy cyffredin nag y tybir. Gobeithio wir y bydd mwy o gyfrolau fel hyn yn gweld golau dydd, gan eu bod yn cynnig cymaint o gymorth a gobaith i nifer ohonom.
Share
