Cyngor Llyfrau Cymru
Twll Bach yn y Niwl
Twll Bach yn y Niwl
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Lowri wedi cael llond bol o'i phentref, o'i diffyg swydd, o hogiau, o'i ffrindiau weithiau, ac o'r dafarn leol. Yn ogystal â phroblemau teuluol, mae bywyd Lowri yn ddiflas. Ond oes llygedyn o obaith drwy'r niwl? Nofel gignoeth am gyfeillgarwch a thyfu i fyny; am fod yn oedolion sy'n dal i fihafio fel plant. Mae'n cynnwys iaith gref a golygfeydd ar gyfer oedolion yn unig.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Lowri has had enough of her village, unemployment, young men, the local pub, and even her friends sometimes. Together with family problems, Lowri's life is dull. But is there a flicker of hope through the mist? A caustic novel about friendship and coming of age, about adults behaving as children, with strong language and imagery for adults only.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784619565
- Gwales Code
- gwales.com.9781784619565
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Twll Bach yn y Niwl
- Awdur / Author
- Maddocks, Llio
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-11-09
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 250 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Nofel am Lowri, merch ifanc sy’n byw mewn pentref pawb-yn-nabod-pawb yng ngogledd Cymru, yw Twll Bach yn y Niwl , nofel gyntaf Llio Elain Maddocks. Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu yng Ngwyndodeg hyfryd yr awdur, sy’n hanu o Lan Ffestiniog. Os ydych chi, fel fi, yn ffan o Insta-gerddi gwych yr awdur, rwy’n hyderus y gwnewch chi fwynhau’r nofel hon. Mae’r nofel yn dechrau’n dwyllodrus o syml ac ysgafn. Dysgwn o’r dechrau fod Lowri wedi diflasu ar ei bywyd yn y pentref. Mae ei bywyd carwriaethol yn llanast llwyr. Caiff ei dympio’n ddisymwth gan Anthony – ei chariad ers saith mlynedd – dros bryd siomedig (a sarhaus) o basta. Mae Dafydd – yr hogyn y bu hi’n cyboli ag ef tra oedd Anthony yn Awstralia – yn ei thrin fel baw ac yn annhebygol o adael ei gariad. Mae hi’n ddi-waith ac yn ymgeisio am swyddi nad ydynt o ddiddordeb iddi o gwbl. Hoffai wneud PhD ond dydi hi ddim yn teimlo’n ddigon clyfar. Ac fel llawer o bobl ifanc sydd wedi dychwelyd adref i’w cymunedau cysglyd ar ôl graddio o’r brifysgol, mae Lowri’n ymdrybaeddu mewn ennui ac angst, yn cicio’i sodlau ac yn treulio gormod o amser yn y dafarn efo ffrindiau sydd hefyd yn yr un twll. Mae hi mewn rhigol ac angen newid byd. Gŵyr Lowri ei bod hi yn y niwl yn llwyr ac nid yw’n medru gweld unrhyw oleuni drwyddo – mae’n gwbl anhreiddiadwy. Ond sylweddola erbyn y diwedd mai hi yn unig a all glirio’r niwl sy’n ei rhwystro rhag symud yn ei blaen. Er bod y nofel yn dechrau ar nodyn ysgafn, mae’r awdur yn plannu themâu dwys drwyddi draw, fel hadau bach sy’n galluogi i’r nofel ddatblygu a thyfu’n stori sy’n fwy dirdynnol na hanes troeon trwstan a bywyd carwriaethol trychinebus merch ifanc. Yn wir, roedd y dagrau’n powlio i lawr fy ngruddiau tua’r diwedd. Mae’r awdur yn disgrifio ei hun fel ‘rêl milenial’, ac fel milenial fy hun, rwy’n medru uniaethu ar sawl lefel â’r prif gymeriad. Ond i’r sawl nad ydynt yn perthyn i’r genhedlaeth avo-ar-dost, rwy’n hyderus y gwnewch chi fwynhau’r nofel lawn cymaint ag y gwnes i. Mae Twll Bach yn y Niwl yn nofel ddarllenadwy, lawn hiwmor sy’n pendilio’n gelfydd rhwng y llon a’r lleddf. Darllenwch!
Share
