Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Tua'r Gorwel

Tua'r Gorwel

Regular price £8.50 GBP
Regular price Sale price £8.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Pan ddaw Ifan adref o'r Ail Ryfel Byd i'w gartref yng nghefn gwlad Eifionydd, mae Mair, ei wraig yn falch iawn o'i weld. Wedi'r cyfan, chafodd rhai o'i gyfoedion ddim dychwelyd. Ond, â chysgod yr ymladd wedi gadael eu hôl ar Ifan, sut all y teulu bach oroesi?

Disgrifiad Saesneg / English Description

When Ifan returns from the Second World War to his home in rural Eifionydd, his wife Mair is overjoyed to see him. After all, some of his peers did not return. But with Ifan bearing the deep shadows of battle, how will the family survive?

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845279080
Gwales Code
gwales.com.9781845279080
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Tua'r Gorwel
Awdur / Author
Jones, Eirlys
Current Price ex VAT
£8.50
Current Price inc VAT
£8.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-12-08
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
202 pages
Size
128 × 198 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Cafodd Eirlys Jones ei magu yn Rhosfawr a'r Ffôr, ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffor ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd i weithio i swyddfa'r Dreth Incwm cyn priodi Griff a chael tri o blant, Lynne, Iolo a Non. Mae ganddi erbyn hyn wyth o wyrion a wyresau. Bu'n ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddi ymddeol yn 2017, ac er iddi fod â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg erioed (a chystadlu ambell waith ar gystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau lleol) wnaeth hi ddim troi at ysgrifennu o ddifrif tan iddi ymddeol. Mentrodd anfon ei nofel gyntaf, Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti? (gydag anogaeth ei gŵr) i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018, a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid, Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, am ei hiaith goeth. Cyhoeddodd ei hail nofel Tu ôl i'r llenni yn 2021 . Yn ei hamser hamdden mae Eirlys yn mwynhau teithio ymhell ac agos, darllen, garddio a gwaith llaw.

View full details