Cyngor Llyfrau Cymru
Tu ôl i'r Llenni
Tu ôl i'r Llenni
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r Ail Ryfel Byd ar ei anterth, a dynion cefn gwlad Cymru yn ymladd yn y ffosydd. Mae merched un gymuned fechan yn Eifionydd yn gorfod dygymod â bywyd heb eu gwŷr, eu meibion a'u brodyr, gan geisio magu a bwydo'u teuluoedd mewn cyfnod ansicr. Tydi pob merch ddim yn dygymod cystal ag eraill, ond cânt oll eu heffeithio pan sylweddolant fod rhywbeth neu rywun yn stelcian o gwmpas yn y nos.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The Second World War is affecting the women in rural Eifionydd as they try to cope with life without their husbands, sons and brothers, and feed their families during an insecure time. Some women find life more difficult than others, but all are affected when they realise that something - or someone - is prowling around their homes at night.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845277932
- Gwales Code
- gwales.com.9781845277932
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tu ôl i'r Llenni
- Awdur / Author
- Jones, Eirlys Wyn
- Current Price ex VAT
- £8.50
- Current Price inc VAT
- £8.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-06-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 202 pages
- Size
- 128 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Cafodd Eirlys Jones ei magu yn Rhosfawr a'r Ffôr, ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffor ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd i weithio i swyddfa'r Dreth Incwm cyn priodi Griff a chael tri o blant, Lynne, Iolo a Non. Mae ganddi erbyn hyn wyth o wyrion a wyresau. Bu'n ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddi ymddeol yn 2017, ac er iddi fod â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg erioed (a chystadlu ambell waith ar gystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau lleol) wnaeth hi ddim troi at ysgrifennu o ddifrif tan iddi ymddeol. Mentrodd anfon ei nofel gyntaf, Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti? (gydag anogaeth ei gŵr) i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018, a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid, Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, am ei hiaith goeth. Mae Eirlys wrthi'n gweitho ar ei thrydedd nofel, ac yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau teithio ymhell ac agos, darllen, garddio a gwaith llaw.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae'r Ail Ryfel Byd ar ei anterth, a dynion cefn gwlad Cymru wedi cael eu galw i ymladd dros fyddin Prydain. Yn ôl yn Eifionydd, mae merched un gymuned fechan yn gorfod dygymod â bywyd heb eu gwŷr, eu meibion a'u brodyr, gan geisio magu a bwydo'u teuluoedd mewn cyfnod ansicr iawn. Tydi pob un o’r menywod ddim yn dygymod cystal ag eraill, ond caiff pob un ohonynt eu heffeithio pan sylweddolant fod rhywbeth ‒ neu rywun ‒ yn stelcian o gwmpas eu tai yn y nos ...
Share
