Cyngor Llyfrau Cymru
Trysor y Môr-Ladron
Trysor y Môr-Ladron
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Argraffiad newydd wedi'i ddiweddaru o nofel gyffrous i blant am Syr Harri Morgan, y môr-leidr enwog, yn mynd i chwilio am drysor. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Lyfrau'r Dryw ym 1960.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A new, updated edition of an exciting novel for children about Sir Henri Morgan, the famous pirate, searching for treasure. Originally published by Llyfrau'r Dryw in 1960.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785620553
- Gwales Code
- gwales.com.9781785620553
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Trysor y Môr-Ladron
- Awdur / Author
- Jones, T. Llew
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-09-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 282 pages
- Size
- 127 × 192 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn Trysor y Môr-ladron , llwydda T. Llew Jones i gyflwyno stori gyffrous mewn modd byrlymus a gafaelgar. Hanes y môr-leidr go iawn, Syr Harri Morgan, a adroddir yma. Cymro oedd Harri Morgan, ac mae’n un o’r môr-ladron mwyaf enwog a llwyddiannus yn hanes y môr. Cawn glywed y stori gyffrous trwy lygaid cymeriad ffuglennol o’r enw Ieuan. Bachgen ifanc, penfelyn, a diniwed yw Ieuan – cymeriad sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr ag un y môr-leidr tywyll, gwalltog â’i wyneb creithiog. Cyflwynir y cymeriad dibrofiad ochr yn ochr â’r cymeriad llawn profiadau di-ri yn fedrus iawn, a defnyddir y dull i gyflwyno thema’r môr a byd y llongau yn gelfydd. Yn ogystal ag adrodd am ddatblygiad cyfeillgarwch anghonfensiynol y ddau yma, cyflwyna’r awdur nifer o gymeriadau difyr eraill, a thrwy ddisgrifiadau ffraeth llwydda i bortreadu unigolion o bob lliw a llun, gan osod darluniau clir ohonynt yn nychymyg y darllenydd. Ceir disgrifiadau manwl a dyfeisgar o edrychiad cymeriadau, eu hymddygiad yn wyneb ei gilydd, a’u hymatebion i ddigwyddiadau. Mae’r digwydd a’r cyffro i’w gael o’r dechrau un yn y nofel hon. Caiff y darllenydd ei sugno i ganol y plot yn syth bin, wrth i ddyn dieithr ddod ar draws bachgen sy’n dianc ar frys o rywle. Ceir ymladd a thynnu gwaed yn y bennod gyntaf un hefyd, ac mae hynny’n gosod y tôn ar gyfer gweddill y nofel antur hon. Er bod y penodau'n weddol hir, caiff y darllenydd ei ddenu i ddarllen ymlaen oherwydd y cyffro a’r troeon trwstan! Fel yr awgryma’r teitl, mae’r fenter yn mynd â ni ar hyd llwybrau môr-ladron ac ar gwest am drysor o aur ac arian. Cawn ein tywys ar draws y moroedd mawr, a chawn flas ar ddewrder, clyfrwch a direidi’r prif gymeriadau yn wyneb perygl a dihirod gelyniaethus. Nid wyf am ddweud mwy am yr hyn sy’n digwydd rhag difetha pleser y darllen i chi – plymiwch ar daith gofiadwy rhwng cloriau’r clasur hwn.
Share
