Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Trwy Ddyddiau Gwydr

Trwy Ddyddiau Gwydr

Regular price £7.50 GBP
Regular price Sale price £7.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol gyntaf o gerddi synhwyrus a thelynegol gan y llenor amryddawn Siân Northey, a gyhoeddodd sawl cyfrol o ffuglen ar gyfer oedolion a phlant. Ei nofel ddiweddaraf ar gyfer oedolion oedd Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011).

Disgrifiad Saesneg / English Description

A first volume of sensual and lyrical poetry from talented writer Siân Northey, who has published extensively for adults and children. Her latest novel for adults was Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011).

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845273767
Gwales Code
gwales.com.9781845273767
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Trwy Ddyddiau Gwydr
Awdur / Author
Northey, Siân
Current Price ex VAT
£7.50
Current Price inc VAT
£7.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-07-03
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Size
138 × 215 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae’n aelod o dîm Talwrn y Tywysogion ac wedi ennill Coron Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a chadeiriau Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid. Ei nofel ddiweddaraf ar gyfer oedolion oedd Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011).

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cynhelir lansiad y gyfrol yn Clwb Iotio Caernarfon, yn ystod Gŵyl Arall dydd Sul, 21 Gorffennaf am 3.00 y.p. Hefyd ar stondin Awen Meirion yn yr Eisteddfod Genedlaethol - pnawn Mercher, Awst 7fed am 6 o'r gloch. CROESO CYNNES I BAWB -- Hon yw’r gyfrol gyntaf o gerddi gan Siân Northey. Mae eisoes wedi cyhoeddi sawl cyfrol o ffuglen ar gyfer oedolion a phlant. Mae ganddi golofn reolaidd yn Barddas. ‘Wrth ddechrau darllen y gyfrol hon mi gofiais fy mod wedi gweld y cerddi cyntaf, sydd o dan y teitl ‘Branwen’, flynyddoedd yn ôl. Ar ôl ymholi darganfûm mai yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1997, yn Y Bala, yr oeddwn wedi eu gweld. Dyma waith yr ymgeisydd a ddaeth yn ail, o drwch blewyn, i gynnyrch y bardd buddugol yno. Un peth trawiadol iawn yn ‘Branwen, rwy’n cofio, oedd y teimladau cryfion oedd yn y cerddi, a phresennol dioddefus yn gymysg â gorffennol dioddefus hen chwedl. Y mae’r gyfrol hon yn llawn teimladau cryfion a gonest iawn, am serch, am deulu, am farwolaeth, ac yn llawn chwilfrydedd deallus am fanylion diddorol bywyd. Y mae gan Siân Northey’r gallu i ysgwyd rhywun â chryfder ei phrofiadau, yn ogystal â’r gallu i synnu rhywun â rhyfeddodau ei dychymyg. Er bod yma gyfeirio at fannau yma ac acw, y mae llawnder iaith a phrofiad cymdeithas ardal wirioneddol Gymraeg yn y cerddi, ac y mae hyn yn cyfrannu at gyfoeth digamsyniol iaith y bardd. Braint i mi oedd cael fy ngwahodd i sgrifennu hyn o eiriau am waith bardd gwir gyffrous.’ Gwyn Thomas

View full details