Cyngor Llyfrau Cymru
Treiglo
Treiglo
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma gyfrol hirddisgwyliedig o gerddi newydd gan Gwyneth Lewis - cyfrol sy'n myfyrio ar y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch. Yma, mae Gwyneth yn defnyddio egwyddor y treigladau – meddal, llaes, trwynol a chaled – i fyfyrio ar golli ei thad a'i Gymraeg Beiblaidd, coeth.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Gwyneth Lewis's new volume of poems is full of wit, intensity and satire, as she reflects on the special relationship between a daughter and her father.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781906396947
- Gwales Code
- gwales.com.9781906396947
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Treiglo
- Awdur / Author
- Lewis, Gwyneth
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-10-17
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 72 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Cynnwys Rhagymadrodd: Transistor Treiglo Rhwbio Llythrennau ‘Paid!’ Treigladau Amser: Damwain Merch, Malwoden Camera Bocs Brownie ‘Dr Who Seat’ Mytholeg Am ’Nôl Cario Gyrru Cerddoriaeth y Meistri Min Y Treiglad Haearn: Haf Olaf Etifeddiaeth Treiglo Dirgelwch Bob Cam o’r Ffordd Addewid Fuoch chi 'Rioed yn Morio? Adnod Newydd Anadlu Cysgodion Hades Am Dro Yr Hwyr Tywydd Mawr Trai Aderyn Du Pigfelen Treigl Wedi Went: Paratoadau Wedyn Celfyddyd Sillafu Gwilym, Gi Da Cywiro Taenu’r Llwch Llyfr Geirfa Theatr Tablau Pellter a Chyflymdra ‘Welsh Not’ Treftadaeth
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Yn 2005, cyhoeddwyd y gyfrol Tair Mewn Un gan Gyhoeddiadau Barddas i ddathlu penodi Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, sef detholiad o’i thair cyfrol gyntaf o gerddi ( Sonedau Resda a Cherddi Eraill , 1990, Cyfrif Un ac Un yn Dri , 1996, a Y Llofrudd Iaith , 1999). Treiglo fydd ei chyfrol gyntaf o gerddi Cymraeg gwreiddiol ers dros ddegawd a mwy, felly. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i Gwyneth gan Lenyddiaeth Cymru yn 2011-2012 a’i galluogodd i weithio ar gerddi'r gyfrol hon o gerddi newydd, ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2012 yn ogystal.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae'r gyfrol 'Treiglo' yn mynd a ni ar daith bywyd Gwilym Lewis o'r crud i'r bedd, yn myfyrio ar yr elfen anorfod o drawsffurfio cyson sy'n digwydd yn ystod taith oes. Treiglad amser sy'n ganolog i'r gyfrol hon sy'n ymdrin a galar mewn ffordd ddychmygus, amrwd a chwareus. Er bod iaith, pobl a pherthynas yn trawsffurfio eu hunain, y treiglad mwyaf yw marwolaeth, ac mae’r gyfrol yn dangos y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch sy’n rhan o’r trawsnewid olaf wrth iddi hi ei wylio’n marw.
Share
