Cyngor Llyfrau Cymru
Tom
Tom
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel am Tom, bachgen 15 oed sy'n byw mewn fflat gyda'i fam. Mae'n ffrindiau gyda dyn 81 oed sy'n byw yn y fflat uwchben. Nofel ddirdynnol yn genre The Curious Incident of the Dog in the Night-time gan awdur ifanc â llais ffres, newydd. Mae'r themâu yn cynnwys bwlio, gwrthdaro, mewnfudwyr, trais a salwch.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel about Tom, a 15 year old youth who lives in a block of flats with his mother and who befriends an 81 year old neighbour. This contemporary novel in the genre of The Curious Incident of the Dog in the Night-time is by a new, young writer. Themes include bullying, clashes, migrants, violence and illness.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784617455
- Gwales Code
- gwales.com.9781784617455
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tom
- Awdur / Author
- Llwyd, Cynan
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-06-15
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 122 pages
- Size
- 197 × 130 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Tom, bachgen pymtheg oed, yn byw ar stad Caercoed yn Grangetown. Dwi wedi gwirioni efo disgrifiadau Cynan Llwyd o’r ardal – mae o’n ein trochi ym myd a bywyd bob dydd y stad ac yn cyfleu tlodi a chaledi bywyd yno. Er hyn, mae ’na lawer o gariad yn nhŷ Tom, ond mae ei fam, sy’n fam sengl, yn gweithio ddydd a nos er mwyn crafu byw i roi bîns a chicken nuggets ar y bwrdd. Mae pres yn dynn a fedrwch chi ddim peidio cydymdeimlo â nhw. Ceir disgrifiadau cignoeth a phlaen gan yr awdur ac nid yw'n ceisio cuddio unrhyw agweddau annymunol. Pan ffeindia Tom gath wedi marw, er enghraifft, dyweda: “Dwi’n credu ’mod i wedi delio gyda hynny’n dda er gwaetha’r gwaed, y perfedd, y drewdod a hagrwch moelni’r ci.” Trafoda’r nofel nifer o themâu cyfoes megis tlodi, gangs, trais, cyffuriau, hiliaeth a llofruddiaeth, ond ynghanol hyn oll, ceir cyfeillgarwch a theimlad o gymdogaeth hefyd. Ffrind gorau Tom yw Ananya, ac maen nhw’n fêts go iawn. Mae ei theulu, y Khans, yn wreiddiol o Fangladesh, ac yn dioddef peth atgasedd hiliol yn y stori. Serch hynny, llwydda’r nofel i ddangos Cymru fodern, amlddiwylliannol a sut mae gwahanol hiliau a chrefyddau’n cyd-fyw gyda’i gilydd, er bod anghydraddoldeb cymdeithasol yn dal i fodoli. Efallai fod mymryn gormod o ddisgrifio ar brydiau, ac yn bersonol mi faswn i wedi hoffi diweddglo gwahanol. Roedd y tensiwn a’r drama wedi cael eu hadeiladu i’r fath raddau, roeddwn i’n siŵr fod rhywbeth ofnadwy’n mynd i ddigwydd, ond siomedig braidd oedd y diweddglo sydyn, taclus. Roedd iaith ddeheuol y llyfr yn hawdd i’w deall a gwneir defnydd o rai geiriau Saesneg (wedi eu hitaleiddio) yn lle defnyddio geiriau Cymraeg anghyfarwydd. O ganlyniad, roedd popeth yn llifo’n dda ac yn ddealladwy. Roedd newid fformat ar gyfer y darnau chatroom ar-lein yn ogystal â defnyddio pwyntiau bwled i grynhoi ambell ddisgrifiad yn syml ac effeithiol. Mae bywyd Tom yn gymhleth. Caiff ei dynnu’n ddyfnach i mewn i fyd tywyll y gangs ac mae’r pethau mae’n ei weld – a'u gwneud – yn peri gofid mawr iddo. Yn wir, mae ei fywyd mewn perygl! Anaml iawn yr ydw i’n mwynhau llyfr cymaint â hwn. Mae o’n rymus, yn wahanol, yn gyffrous ac yn gyfoes.
Share
