Cyngor Llyfrau Cymru
Tipiadau
Tipiadau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma gyfrol gyntaf o gerddi gan Llion Pryderi Roberts, cyfrol sydd yn ei hanfod yn delio gydag amser a'r cof. Mae'r cerddi i gyd yn ymddangos o fewn strwythur 24 awr, a chyflwynir 3 cerdd ar gyfer pob awr, cyfanswm o 72 o gerddi.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Tipiadau is Llion Pryderi Roberts's first volume of poems, and in essence deals with time and memory. All the 72 poems appear within the structure of 24 hours, with 3 poems presented for each hour.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781911584179
- Gwales Code
- gwales.com.9781911584179
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tipiadau
- Awdur / Author
- Roberts, Llion Pryderi
- Current Price ex VAT
- £7.50
- Current Price inc VAT
- £7.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-07-17
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 124 pages
- Size
- 138 × 215 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
O Fôn y daw Llion Pryderi Roberts yn wreiddiol ond mae'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae'n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Enillodd Cadair Eisteddfod Môn am yr eildro yn 2016 ac mae'n aelod o dîm Talwrn Aberhenfelen. Efo oedd Bardd y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn lle bu'n ymateb i ddetholiad o ddwsin o weithiau celf yn Arddangosfa Agored y Brifwyl. Tipiadau yw'r casgliad cyntaf o gerddi iddo ei gyhoeddi.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Tipiadau , mae Llion Pryderi Roberts yn mynd â ni ar daith drwy bedair awr ar hugain farddonol. Cawn dair cerdd yr awr ganddo wedi eu trefnu'n dwt a chronolegol gelfydd – yn union fel petai curiad y cloc yn ein tywys yn anochel tua’r hanner nos. Mae Llion yn llwyddo i lenwi’r oriau hynny gyda cherddi llawn myfyrdodau am blentyndod, profiadau fel rhiant a gŵr, hiraeth a chofio, a natur y cof ei hun. Yn wir, o fewn caethiwed tipiadau amser, mae’n llwyddo i ddod o hyd i’r rhyddid hwnnw o fewn amser y soniodd T. S. Eliot amdano yn Four Quartets . Dyma gyfrol y gellir ei darllen ar ei hyd heb ei rhoi i'r neilltu, neu fedrwch oedi dros gerdd am sbel i fyfyrio gyda’r bardd. Dychwelais at y cerddi droeon wedyn, gan bori yma a thraw a chael hyd i fwy a mwy o’u cyfoeth. Cefais hefyd flas arbennig ar awen chwareus, ddychanol y bardd megis yn y gerdd 'Anarchwyr'. Awen, crefft a dawn fyfyriol a gewch yn y gyfrol hon gan fardd sy’n chwilio am y cyfoeth sy’n bodoli rhwng tipiadau rheolaidd a digyfaddawd amser.
Share
