Cyngor Llyfrau Cymru
Theatr a Chymdeithas - Gwreiddiau ac Amgylchfyd Theatr Felin-fach
Theatr a Chymdeithas - Gwreiddiau ac Amgylchfyd Theatr Felin-fach
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Ysgariad yr iaith Gymraeg oddi wrth ei diwylliant yw prif berygl yr oes, yn ôl awdur y gyfrol hon. Ond beth yw'r diwylliant? Ceisio ateb y cwestiwn hwn yw nod yr astudiaeth fanwl hon o wreiddiau Theatr Felin-fach, gan roi sylw i hanes ei sefydlu. 40 llun du a gwyn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A detailed study of the roots of Theatr Felin-fach in the Aeron valley. Euros Lewis argues that the main peril of present-day society in Wales is the divorcing of the Welsh language from its culture, and tries to get to grips with the question: 'What is that culture?' 40 black-and-white photographs.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845274153
- Gwales Code
- gwales.com.9781845274153
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Theatr a Chymdeithas - Gwreiddiau ac Amgylchfyd Theatr Felin-fach
- Awdur / Author
- Lewis, Euros
- Current Price ex VAT
- £7.50
- Current Price inc VAT
- £7.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-06-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 288 pages
- Size
- 138 × 215 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
O’r theatrau ‘campws’ newydd a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod y 1970au-80au, Theatr Felin-fach yn unig sydd wedi llwyddo i feithrin dolen dynn gyda’i chymuned a’i chenedl – gan feithrin nid yn unig gynulleidfa ond to ar ôl to o actorion, sgriptwyr, cynhyrchwyr a chwmnïau. Mae’r Panto blynyddol yn sefydliad unigryw ynddo’i hun. Lledodd y theatr ei hesgyll i sawl maes pwysig arall megis Radio Ceredigion, ymgyrchoedd cymunedol (megis amddiffyn y ffatri gaws leol) a byd ffilm ac adloniant. Ond camgymeriad fyddai diffinio Theatr Felin-fach fel ‘theatr gymunedol’. Mae hynny yn awgrymu mai mewnblyg a lleol ydi cymeriad y theatr. Er ei bod yn amlwg wedi ei lleoli mewn lle arbennig ac mewn cymdeithas arbennig, safle penodol i edrych allan ar y byd fu Theatr Felin-fach o’r dechrau. Ni fyddai hyn wedi digwydd heb weledigaeth ac arweiniad arbennig – a’r gŵr a gyflwynodd y ddeubeth hynny i’r theatr yw awdur y gyfrol hon. Mae’r gyfrol hon yn ddadansoddiad hanesyddol o gyd-destun y ddrama Gymraeg yng Ngheredigion yn arbennig, ond gan edrych ar y gymdeithas Gymraeg yn ei chyfanrwydd ac ar hanes y theatr Gymraeg dros gyfnod helaeth o amser yn ogystal. Dyma wreiddiau Theatr Felin-fach. Drwy wneud hynny, cawn sylweddoli pwysigrwydd gwleidyddol deinameg y ddrama o fewn ein cymdeithas arbennig ni. Mae’n llyfr radical sy'n adrodd stori na chafodd ei hadrodd o’r blaen, gan geisio gwneud diwylliant penodol y Gymraeg yn weladwy ac yn ddealladwy.
Share
