Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Teulu - Stori Plant yr Ysgwrn — Stori Plant yr Ysgwrn

Teulu - Stori Plant yr Ysgwrn — Stori Plant yr Ysgwrn

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Yn y gyfrol hon ceir dau lyfr. Yn y llyfr cyntaf cawn stori ddychmygol drwy lygaid Gerald Williams, wrth iddo ef a'i frawd Ellis fynd i fyw at eu nain a'u taid yn dilyn colli eu mam yn ifanc. Yn yr ail lyfr, cawn ddeunydd ffeithiol sy'n gefndir i'r stori, er mwyn rhoi hanes a a chyd-destun i'r cyfnod.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The story of Yr Ysgwrn family (Hedd Wyn) through the eyes of Gerald Williams, after he and his brother Ellis went to live with their grandparents following the loss of their mother at a young age.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845248123
Gwales Code
gwales.com.9781845248123
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Teulu - Stori Plant yr Ysgwrn — Stori Plant yr Ysgwrn
Sub Title
Stori Plant yr Ysgwrn
Awdur / Author
Llewelyn, Haf
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2026-06-19
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Darlunydd / Illustrator
Roberts, Elin Mair
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
148 × 210 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Haf Llewelyn yn awdur a bardd, gan ysgrifennu ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau darllen ar gyfer plant gan gynnwys y gyfres boblogaidd Ned y Morwr, Y Lolfa, ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2014 gyda'r nofel Diffodd y Sêr. Bu’n gyd-gyfrifol am greu adnodd darllen ar lein ar ffurf cylchgrawn misol o’r enw y Cliciadur/ Clic-it. Mae gan Haf Llewelyn brofiad eang ym maes dysgu darllen, bu’n Athrawes Gynradd, yn Athrawes Ymgynghorol ac yn Ymgynghorydd Iaith am bron i 30 mlynedd. Bu’n gyfrifol am greu cyrsiau hyfforddi ym maes llythrennedd, ac yn arbennig mewn datblygu darllen, gan greu adnoddau a chreu sesiynau enghreifftiol trwy Gymru gyfan. Bu’n gweithio ar brosiectau pontio yng Ngwynedd a bu’n llywodraethwr ysgol gyda chyfrifoldeb am lythrennedd am dros 20 mlynedd. Bu hefyd dros y blynyddoedd ar sawl panel ymgynghorol ym meysydd llythrennedd a hanes. Mae bellach wedi ymddeol, ac mae ganddi 6 o wyrion Mae’n parhau i ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys creu llyfrau ac adnoddau darllen ar gyfer Darllen Co. Mae’n dal i deimlo’n angerddol am greu llyfrau difyr, doniol a gwreiddiol ar gyfer holl blant Cymru. Artist a darlunydd o ardal Pen Llŷn yw Elin Mair Roberts. Mae’n gweithio â llaw, yn bennaf mewn inc, ac yn mwynhau archwilio lliwiau a gweadau yn ei gwaith. Ar ôl iddi raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2023, mae wedi cael y cyfleoedd i weithio ar lu o gomisiynau, yn cynnwys ei gwaith diweddar ar gyfer Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Caiff ei hysbrydoli gan y byd o’i chwmpas, ei diddordebau yn y celfyddydau, a digwyddiadau cyfredol. Cafodd lwyddiant a chanmoliaeth uchel am ddarlunio'r gyfrol 'Madog' i Wasg Carreg Gwalch yn Awst 2025. Gwefan: https://www.elinmairroberts.com/

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn y gyfrol hon ceir dau lyfr. Yn y llyfr cyntaf cawn stori ddychmygol drwy lygaid Gerald Williams, wrth iddo ef a’i frawd Ellis fynd i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn colli eu mam yn ifanc. Cyflwynir stori Hedd Wyn, ond yn fwy na hynny, cyflwynir y syniad o golled a hiraeth, a phwysigrwydd teulu er mwyn goresgyn hynny. Yn yr ail lyfr, cawn ddeunydd ffeithiol sy’n gefndir i’r stori, er mwyn rhoi hanes a a chyd-destun i’r cyfnod. Cawn gyfle i werthfawrogi awyrgylch yr Ysgwrn a’r fferm fynydd Gymreig. Cawn hefyd olwg ar y weledigaeth i gadw’r lle fel canolfan i’r cenedlaethau i ddod, a’r hyn sydd yn yr Ysgwrn heddiw. Broliant. Llyfr 1 - Mae pethau’n anodd wrth i Gerald Williams adrodd ei stori amdano ef a’i frawd Ellis yn symud i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn marwolaeth eu mam yn ifanc. Dyma stori am gariad teuluol sy’n goresgyn ofnau, ac yn dod â hapusrwydd i’r rhai sydd ar ôl drwy gefnogi ei gilydd. Llyfr 2 – Dysgwch am gefndir, traddodiadau a chyd-destun y cyfnod hwn ar fferm fynydd Gymreig, yn ogystal â’r hyn sydd i’w weld yn yr Ysgwrn heddiw, yn dilyn y weledigaeth i greu canolfan i gadw’r lle ar gyfer y dyfodol.

View full details