Cyngor Llyfrau Cymru
Taith yr Aderyn
Taith yr Aderyn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dewch gyda ni i mewn i nofel epig sy'n llawn antur mewn byd estron a dysgwch hanes Gaut a'i gyfeillion wrth iddynt herio awdurdod a glynu at eu hegwyddorion a'u hetifeddiaeth gan fynnu bod rhaid i fywyd fod yn drech nag awdurdod.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Join us as we venture into an epic novel full of adventure in a strange world and learn the story of Gaut and his friends as they challenge authority and stick to their principles.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785622656
- Gwales Code
- gwales.com.9781785622656
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Taith yr Aderyn
- Awdur / Author
- Jones, Alun
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-04-17
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 406 pages
- Size
- 128 × 196 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Hanesyddol, Geltaidd ac Arthuraidd (yn Gymraeg) | EN: Historic, Celtic and Arthurian Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Gyda chwedlau’r Mabinogi’n darddiad i draddodiad rhyddiaith y Gymraeg, mae’n syndod nad oes mwy o lenyddiaeth ffantasi yn bodoli yn yr iaith. Ers dyfodiad Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn yn 1992, ymddengys bod ysfa frwd gan rai i weld mwy o straeon mewn bydoedd arallfydol ac i gael cyfle i ymgolli’n llwyr wrth ddilyn anturiaethau epig, a dyma nofel ddiweddaraf Alun Jones, Taith yr Aderyn , yn ychwanegu at y cnwd bychan hwnnw o ffantasi Gymraeg. Daw Taith yr Aderyn fel dilyniant o fath i Lliwiau’r Eira a gosodir y ddwy nofel yn yr un byd ‘digyfnod’ rhwng gorffennol a dyfodol. Dilyna’r nofel antur Gaut gan olrhain hanes ei dyfiant o'i lencyndod lled ddiniwed, i’w gyfnod fel milwr anfoddog a’i daith beryglus yn ôl at ei deulu ifanc. Wrth ddarllen, mae hi bron yn amhosib adnabod awdur y nofel dditectif Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr am ei bod hi’n nofel sydd wedi ei lleoli mewn byd mor wahanol. Her i mi wrth lunio’r adolygiad hwn yw peidio â datgelu gormod am y plot i ddarpar ddarllenydd. Fodd bynnag, gan grynhoi’n fras, taith epig ac emosiynol Gaut ar hyd tiroedd peryglus, gan osgoi byddinoedd ac iddynt filwyr milain (ond gydag ambell un cyfeillgar yn cuddio yn eu plith), yw’r nofel, a ninnau’n ysu’n daer gyda phob cam y bydd Gaut yn llwyddo i gyrraedd adref at ei deulu a’i gynefin. O’r cychwyn cyntaf – gyda’i berthynas ofalus gyda’i chwaer a’i frawd iau, Cari a Dag, a’i gariad diniwed at Eir – gwelwn Gaut fel arwr hoffus ac un sy’n ennyn cydymdeimlad y darllenydd. Bu’n rhaid chwilota drwy Lliwiau’r Eira cyn troi yn ôl at Taith yr Aderyn i allu dilyn pwy-oedd-pwy a beth-oedd-beth yn llwyr, ac mi fyddwn yn argymell rhywun sy’n bwrw ati i ddarllen Taith yr Aderyn i ddarllen am hanes Tarje a’i gyfeillion yntau yn gyntaf. Fodd bynnag – a chan gofio ein bod yn plymio i fyd cwbwl ddieithr – dyma nofel hynod ddarllenadwy sy’n tynnu’r sawl sy’n darllen i ganol hynt a helynt Gaut, gan obeithio gweld diweddglo hapus iddo yntau a’i deulu. Bosib bydd ’na ambell un llai mentrus yn barod i gwyno am y byd anghyfarwydd â’i enwau a’i arferion rhyfedd, ond yn y byd sydd ohoni, dyma ddihangfa gyffrous ar ffurf chwedl newydd.
Share
