Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Taith Rhyw Gymro

Taith Rhyw Gymro

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Hunangofiant yr academydd a'r gwleidydd Tedi Millward, arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria a ffigwr allweddol yn hanes ffurfiannol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhagair gan Jamie Bevan.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The autobiography of Welsh academic and politician Tedi Millward, a specialist on Welsh Victorian literature and a key figure in the formation of the Welsh Language Society. Preface by Jamie Bevan.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785620171
Gwales Code
gwales.com.9781785620171
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Taith Rhyw Gymro
Awdur / Author
Millward, E. G.
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-12-14
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
118 pages
Size
168 × 197 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Ganed E.G. Millward yn 1930 yng Nghaerdydd ac mae'n byw bellach ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth. Mae'n ysgolhaig a beirniad llenyddol adnabyddus. Aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, a bu'n dal swyddi academaidd ym Mangor a'r Barri a'i benodi wedyn yn ddarlithydd yn y Brifysgol yng Ngholegau Abertawe ac Aberystwyth. Y 19eg ganrif oedd prif faes ei ddiddordeb academaidd. Bu'n gynghorydd bro ac yn gadeirydd Cynghorau Bro a Thref Cymru. Bu'n weithgar dros Blaid Cymru – gan sefyll dros y blaid yn sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966 ac yn sir Drefaldwyn yn 1970 ond ni chafodd ei hethol. Yn 1966, fe'i etholwyd yn Is-lywydd y Blaid ond synnodd lawer pan ildiodd y rôl honno yn 1968. Wedi hynny ef oedd llefarydd y blaid ar bolisi dŵr ac roedd o blaid gweithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn adeiladu cronfeydd dŵr newydd. Yn 1976 fe'i henllibiwyd gan William Hamilton a honnodd ei fod ynghlwm wrth weithgareddau terfysgol pan oedd yn tiwtora'r Tywysog Charles. Derbyniodd £1000 mewn setliad yn yr achos hwnnw. Cefnogodd ymgyrch Gwynfor Evans ar gyfer sefydlu sianel deledu i Gymru yn ystod yr 1980au.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma atgofion un o gewri tawel ein hiaith a'n diwylliant, gŵr a fu'n rhan ffurfiannol o rai o sefydliadau a mudiadau pwysicaf y Gymru gyfoes. Mae rhestr cydnabod Tedi Millward yn cynnwys D. J. Williams, Gwynfor Evans, Waldo Williams, Siân Phillips a Saunders Lewis, i enwi dim ond rhai. Tedi biau'r clod am fathu enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'i sefydlu ynghyd â John Davies, Bwlch-llan. Bu hefyd yn is-lywydd Plaid Cymru ac yn ymgeisydd dros y blaid. Yn arbenigwr blaenllaw ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria, bu'n ddarlithydd a darllenydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan ddylanwadu ar genedlaethau o fyfyrwyr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys darnau o sgwrs rhwng Tedi Millward a Jamie Bevan, cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith.

View full details