Cyngor Llyfrau Cymru
Tag
Tag
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dim ond sbort oedd e ar y dechrau, un arall o gemau Motto. Wnes i ond cytuno er mwyn ei helpu. Wedi'r cwbwl, dyna ddiben ffrindiau, onide? Dechreuon ni gymysgu gyda'r 'Sun Crew'. Yn fuan wedyn, doedd gen i ddim ffrind. Ac fe beidiodd y chwerthin.
Disgrifiad Saesneg / English Description
It all started as a laugh, another of Motto's games. I only went along to help him out. I mean, that's what friends are for, isn't it? Then we tangled with the Sun Crew. Suddenly, I didn't have a friend. And the laughing stopped. A Welsh adaptation of Tag .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781904357247
- Gwales Code
- gwales.com.9781904357247
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tag
- Awdur / Author
- Coleman, Michael
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-11-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Editor
- Hughes, Bethan
- Translator
- Meek, Elin
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 192 pages
- Size
- 12.8 × 19.2 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
‘Stori sy’n ergydio’n galed’ yw hon yn ôl y broliant ar gefn y gyfrol, ac mae hynny’n sicr yn wir. Mae’r teitl yn cyfeirio at y llofnod sy’n cael ei adael gan artistiaid graffiti, ac i’r byd hwnnw yr awn yng nghwmni Pete a Motto. Dyma stori am gyfeillgarwch ac am yr awydd i berthyn a bod yn rhan o grŵp. Peter yw'r llefarydd, bachgen gydag atal dweud arno sy’n eilunaddoli Motto, a hwnnw yn ei dro'n manteisio ar ei ddiniweidrwydd. Mae Motto’n dyheu am fod yn enwog, gan beintio graffiti ar do bws ysgol er mwyn cael sylw. Yn fuan, mae Pete ac yntau mewn trafferthion am godi gwrychyn gang graffiti lleol. Mae’r nofel yn llawn cymeriadau cymhleth, a diddorol, ac mae Pete a Motto’n gymeriadau byw iawn. Mae eu gobeithion, eu dyheadau a'u hofnau’n denu cydymdeimlad a rhwystredigaeth y darllenydd. Cawn wybod ar gychwyn y llyfr am ddamwain erchyll, a datgelir yr hanes yn raddol. Mae ’na nifer o droeon annisgwyl a difyr yn y stori hon cyn iddi gyrraedd ei diweddglo chwerw-felys. Mae byd y nofel hon yn anodd a bygythiol ar adegau – byd o ladrata, ymosodiadau a dial, byd dieithr iawn i'r mwyafrif ohonom ni, ddarllenwyr. Ac oni ddylai nofel dda gyflwyno darllenwyr i'r anghyfarwydd?
Share
