Cyngor Llyfrau Cymru
Tadwlad
Tadwlad
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r nofel hon yn olrhain taith y prif gymeriad Dylan Rhys, sy'n gweithio mewn canolfan ffoaduriaid, i ddysgu am hanes ei deulu a phwy oedd ei gyndadau. Mae ei orffennol ef a phresennol rhai o'r dynion sydd dan ei ofal yn y ganolfan yn cyd-daro i greu stori bwerus a chyfoethog. Dyma nofel am ddynion, eu perthynas â'i gilydd, a'u brodyr a'u tadau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel that traces the journey of the main character, Dylan Rhys, who works in a centre for refugees, as he seeks to learn about his family's history and who his ancestors were. His past and the present stories of the men in his care in the refugee centre create a rich and powerful story. This is a story about men, their relationships with each other, their brothers and fathers.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781913996796
- Gwales Code
- gwales.com.9781913996796
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Tadwlad
- Awdur / Author
- Kidd, Ioan
- Current Price ex VAT
- £10.00
- Current Price inc VAT
- £10.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-04-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 280 pages
- Size
- 130 × 197 mm; depth 25 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Enillodd Ioan Kidd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i nofel arbennig Dewis . Mae hon yn nofel o'r un calibr.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Hon yw pumed nofel yr awdur i oedolion – a’r orau yn fy marn i. Mae’r teitl yn ennyn chwilfrydedd cyn agor y llyfr; mae pawb yn gyfarwydd â’r syniad o famwlad, ond beth yw tadwlad? Does dim syndod, felly, mai dynion yw prif gymeriadau’r stori, dynion a’u perthynas â’i gilydd. Ar ddiwrnod angladd ei dad, mae Dylan Rhys, sy’n gweithio mewn canolfan i ffoaduriaid yng Nghaerdydd, yn cael gwybod i’w dad gael ei fabwysiadu. Doedd neb yn y teulu wedi sôn am hyn erioed ac mae’r wybodaeth yn cael effaith enfawr ar Dylan. Mae’n teimlo i’w hunaniaeth gael ei chwalu; doedd y fam-gu a’r tad-cu roedd e’n eu cofio gydag anwylder ddim yn perthyn iddo, felly pwy oedd ei deidiau go iawn? Mae’n teimlo’n ddig ac yn siomedig nad oedd ei dad erioed wedi crybwyll ei gefndir ac yn ansicr iawn am beth ddylai ei wneud. Yn raddol, gyda chymorth ei fodryb a’i fab ef ei hun, mae Dylan yn darganfod mwy ac mae’r cydymchwilio yn ei dynnu ef a Guto’r mab yn agosach at ei gilydd. Ar yr un pryd cawn hanes dau o’r ceiswyr lloches yn y ganolfan ffoaduriaid, eu profiadau dychrynllyd wrth deithio ar draws Ewrop i gyrraedd Prydain, a’r berthynas rhyngddyn nhw a Dylan sy’n ceisio’u helpu. Mae’r stori’n afaelgar dros ben ac wedi ei hysgrifennu’n gelfydd gan wneud y cymeriadau yn fyw a chredadwy. Mae’r awdur yn ein harwain yn rhwydd o un cymeriad i’r llall, ac o’r presennol i’r gorffennol. Ceir disgrifiadau arbennig o effeithiol o brofiadau dirdynnol y ffoaduriaid ac o deimladau cymysg iawn Dylan pan gaiff newyddion sy’n tanseilio popeth a gredai amdano ef ei hun. Mae ambell fflach o hiwmor yn y ddeialog yn ysgafnhau’r stori ac eto’n gwneud y cymeriadau yn fwy real. Mae hon yn nofel sy’n gwneud i rywun feddwl, yn ein herio i ystyried cymhlethdod byd yr unfed ganrif ar hugain, ac ar yr un pryd yn ein hatgoffa am y llanast yn Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Fe fwynheais ddarllen Tadwlad yn fawr iawn a byddwn yn ei hargymell i ddarllenwyr eraill.
Share
