Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Tacsi i'r Tywyllwch

Tacsi i'r Tywyllwch

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dydi Madog, gyrrwr tacsi o Fangor, ddim yn cael diwrnod da. Yn y bore, mae'n hebrwng corff ei fam i'r amlosgfa. Erbyn diwedd y noson, bydd hefyd wedi colli'i gariad mawr. Ond ble'r aeth hi? Pam ei bod hi wedi diflannu? Wrth dalu am wasanaeth y cyn-dditectif Ian Robertson i ymchwilio i'r mater, mae Madog yn codi cwr y llen ar sawl cyfrinach dywyll ac annymunol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Madog, a taxi driver from Bangor, isn't having a very good day. In the morning, he accompanies his mother's body to the crematorium and by the end of the night he will have lost his true love. But where did she go? Why did she disappear? By hiring ex-detective Ian Robertson to look into the matter, Madog uncovers many dark and undesirable secrets.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785620447
Gwales Code
gwales.com.9781785620447
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Tacsi i'r Tywyllwch
Awdur / Author
Cob, Alun
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-12-18
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
144 pages
Size
128 × 196 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Bellach, mae Alun Cob wedi hen sefydlu ei hun fel awdur nofelau antur hynod afaelgar, a dilyn yr un trywydd y mae eto yn y nofel Tacsi i’r Tywyllwch . Dyma nofel yn y genre noir sy’n mynd â ni i fyd erchyll dihirod go iawn – byd y gangsters a chymeriadau hynod dreisgar o’r is-fyd sy’n dod i effeithio’n fawr iawn ar fywyd Madog Roberts, y gyrrwr tacsi diniwed o Fangor, sy’n digwydd cael ei lusgo i ganol y cyfan gan ei gariad, Rhiannon. Ar ddechrau’r nofel, cawn ein cyflwyno i Madog ar un o ddyddiau tywyllaf ei fywyd wrth iddo aros i hebrwng corff ei fam i’r amlosgfa ar ddiwrnod ei hangladd. Ond mynd o ddrwg i waeth wnaiff pethau iddo, oherwydd erbyn diwedd y noson, mae Rhiannon hefyd wedi diflannu. Canlyniad hynny yw bod Madog yn treulio gweddill y nofel, er gwell neu er gwaeth, yn ceisio dod o hyd iddi, trwy gymorth Edgar, ei ffrind gorau, a ditectif preifat, gan arwain at y tri ohonyn nhw’n cael eu tynnu i mewn i fyd dychrynllyd pobl y cysgodion. O safbwynt arddull, dyma nofel hynod slic a sydyn y gellid yn hawdd ei darllen ar un eisteddiad, gymaint yw awch y darllenydd i ddod at wreiddyn y stori. Mae dychymyg yr awdur yn eithriadol, yn enwedig wrth iddo ehangu cwmpawd y stori i gyfeirio at rwydweithiau o gangsters rhyngwladol. Rhaid mai Adrian Jordan a Bojan Simonović yw rhai o gymeriadau mwyaf brawychus unrhyw nofel Gymraeg, er bod cynildeb dweud Alun Cob yn ei rwystro rhag ymgolli’n ormodol yn erchylltra’r lladd a’r llofruddio treisgar. O ystyried natur y plot fe allasai fod yn nofel gymhleth, ond mae’r modd y mae’r awdur wedi dewis cyflwyno’r stori ar ffurf penodau byrion, gan seilio bob pennod ar safbwynt cymeriad gwahanol, yn golygu nad felly y mae hi. Gallai’n hawdd weithio fel drama deledu, gyda golygfeydd bachog, sydyn sy’n symud o un cymeriad i’r llall. Caiff y stori ei gyrru yn ei blaen yn drawiadol gan ddawn dweud a chyfoesedd crefftus Alun Cob, gan ddwyn i gof arddull nofelau pulp fiction Americanaidd. Serch hynny, wrth nesáu at ddiwedd y nofel, ro’n i, fel darllenydd, yn teimlo braidd yn bryderus. A’r stori’n cyrraedd uchafbwynt hynod gyffrous a gwaedlyd, ro’n i’n dechrau rhedeg allan o dudalennau ac yn pryderu na fyddai’r awdur yn gallu dirwyn ei stori i ben mewn modd digon cyflawn a boddhaus. Ac felly yn union y digwyddodd pethau. Heb os, fe ddaeth y nofel i ben yn rhy sydyn o lawer. Mae’r diweddglo, yn bendant, yn destun rhwystredigaeth am nad yw’r awdur wedi llwyddo i ddatgelu digon am yr hyn sydd wedi digwydd i’r cymeriadau dan sylw. Ond hyd yn oed wedyn, mae’r nofel yn werth ei darllen petai ond am y stori antur afaelgar, gan obeithio na fyddwch chi’n rhy siomedig erbyn i chi gyrraedd y dudalen olaf!

View full details