Cyngor Llyfrau Cymru
Sw, Y
Sw, Y
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori yw hon am fachgen ifanc sy'n byw ar fferm ddiarffordd ar Ynys Môn yn 1980. Mae ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae ei dad, sy'n amaethwr ac entrepreneur mentrus, yn manteisio ar gyfle i sefydlu sw ar y fferm. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2014.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A humorous story by a popular comedian and broadcaster about a young boy, whose life was changed completely when his father, an entrepreneurial farmer established a zoo on his remote farm in Anglesey in the 1980s. Reprint. First Published in 2014.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845274832
- Gwales Code
- gwales.com.9781845274832
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Sw, Y
- Awdur / Author
- Owen, Tudur
- Current Price ex VAT
- £8.50
- Current Price inc VAT
- £8.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-07-13
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 218 pages
- Size
- 138 × 215 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Yn enedigol o Fodorgan, Sir Fôn, mae Tudur Owen yn ddigrifwr a darlledwr sydd bellach yn byw yn weddol hapus yn y Felinheli. Hon yw ei nofel olaf.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Sut mae cael eich llun ar dudalen flaen papur newydd cenedlaethol? Syml. Gadewch i Wyddel o’r enw Brendan Fitzgibbon ddod â llond lori o anifeiliaid egsotic i’ch fferm. Ychwanegwch haf gwlyb ofnadwy a Saesnes wallgof, yn ogystal â pherthynas fregus eich rhieni, ac mae ganddoch chi stori werth chweil i’r 'News of The World'. Dyma sut y newidiodd fy mywyd i, a’n cornel ddistaw ni o Sir Fôn, am byth wrth i’r genedl ddod i wybod am helynt Y Sw . Mae’r nofel hon yn seiliedig ar stori wir, ond newidwyd enwau, lleoliadau a ffeithiau i amddiffyn y diniwed. Ni chafodd unrhyw anifail ei niweidio yn sgil ysgrifennu’r stori yma. Er mai ffuglen yw’r stori, a nifer o’r cymeriadau a’r sefyllfaoedd yn rai dychmygol, mae’n seiliedig ar blentyndod yr awdur. Cafodd ei pherfformio fel sioe lwyfan gan Tudur ddwy flynedd yn ôl – ond oherwydd cyfyngiadau’r cyfrwng, ni allodd wneud cyfiawnder â’r hanes. Mae’n awyddus iawn i wneud hynny yn y nofel hon. Yn dilyn llwyddiant darlledu 'Tudur Owen: Zoo' ar Radio 4 dyma gyhoeddi ail argraffiad o’i nofel boblogaidd.
Share
