Cyngor Llyfrau Cymru
Stori Sydyn: Un Noson
Stori Sydyn: Un Noson
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel hwyliog ar gyfer darllenwyr anfoddog ac unrhyw un sy'n hoff o stori ysgafn a chyfoes! Mae'r stori'n dilyn dau brif gymeriad, Jacob a Cadi, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer priodas ffrind cyffredin i'r ddau. Mae'n dechrau 7 diwrnod cyn y briodas ac yn dilyn y paratoadau hyd at y diwrnod ei hun.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A lively novel for unwilling readers and anyone who enjoys a contemporary, lighthearted story! The story follows two main characters, Jacob and Cadi, as they prepare for a friend's wedding. Beginning 7 days prior to the wedding, the story follows the preparations until the big day itself.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800992115
- Gwales Code
- gwales.com.9781800992115
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Stori Sydyn: Un Noson
- Awdur / Author
- Maddocks, Llio Elain
- Current Price ex VAT
- £1.00
- Current Price inc VAT
- £1.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2022-04-15
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 100 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyrhaeddodd nofel gyntaf Llio Elain Maddocks, Twll yn y Niwl , restr fer Llyfr y flwyddyn 2021, felly cyn troi at y nofel hon ry'ch chi’n gwybod eich bod yng nghwmni awdur medrus. Mae’r stori, sy’n gafael ynoch chi o’r dechrau’n deg, yn cychwyn saith diwrnod cyn priodas Rhys. Mae ei gyfaill ers dyddiau'i blentyndod, sef Jacob, yn rhedeg hen garej ei dad yn Ffrainc ers ei fod yn ddeunaw oed ac nid yw wedi dychwelyd i Gymru ers blynyddoedd – yn wir, nid yw'n gweld eisiau’r lle chwaith. Ond pan ddaw gwahoddiad i briodas Rhys, mae’n rhaid derbyn a throi tuag adre. Wrth siopa gyda’i fam am anrheg briodas daw Jacob ar draws y gyfreithwraig Cadi sy’n chwilio am ffrog i fynd i’r un briodas. Dydyn nhw erioed wedi cyfarfod o’r blaen. Jacob a Cadi sy’n dweud y stori, sy’n arddull berffaith i symud y stori yn ei blaen yn llyfn a chyflym. Mae Cadi druan newydd gael ei dympio gan Tom sy’n gweithio yn yr un swyddfa gyfreithiol â hi, ac ef yw gwas priodas Rhys. Mae Cadi’n benderfynol o wneud Tom yn genfigennus ar ddydd y briodas ac efallai ei ennill yn ôl. Pan wêl Cadi Jacob, ‘ei ysgwyddau llydan bron â chyffwrdd y ddwy wal’, a deall ei fod yn mynd i’r un briodas, mae hi’n taro ar gynllun fydd yn sicr o wneud Tom yn genfigennus, yn enwedig petai’n gwisgo’r ‘ffrog goch dynn nad oedd yn gadael lot i’r dychymyg’ y mae hi ar fin ei phrynu. Wedi iddo gyfarfod â Tom, y ‘lembo’ snobyddlyd drannoeth, mae Jacob yn cytuno i helpu Cadi gyda’i chynllun. Mae’n cytuno i esgus bod yn gariad iddi am un diwrnod yn unig, sef diwrnod y briodas. Ond a yw ei benderfyniad yn un doeth? Yn ôl cyfaddefiad Cadi ei hunan mae’r cynllun yn llawn problemau ac mae hi’n gwybod ei bod yn chwarae â thân. Ar ben hynny, mae ei ffrind gorau Sioned yn credu ei bod yn gwneud camgymeriad. Ddwy noson cyn y briodas, dan olau’r sêr, mae’r cynllun yn cymhlethu fwy fyth, ac yn ystod yr un noson dyngedfennol honno, sef noson y briodas, mae Cadi’n gwbl bendant ei bod wedi gwneud llanast o bethau. Mae hi’n sicr yn creu argyfwng ac er y byddwch, o bosib, yn credu eich bod wedi rhagdybio’r diweddglo, mae ambell dro trwstan yn eich aros. Mae hon yn nofel berffaith i’w darllen ar lan y môr ger Rochefort yn Ffrainc ... a gwydriad o win coch yn gwmni.
Share
