Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Stori Sydyn: Herio i'r Eithaf

Stori Sydyn: Herio i'r Eithaf

Regular price £1.00 GBP
Regular price Sale price £1.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Huw Brassington yn gyflwynydd, siaradwr gwadd, awdur, anturiwr ac athletwr o fri. Mae wedi cyflawni rhai o rasys anoddaf y byd, gan gynnwys y Coast to Coast yn Seland Newydd. Daw o Sir Gaernarfon yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yng Nghymbria gyda'i wraig Gwenllian, ac yn ddarlithydd Peirianneg. Mae'n cyflwyno cyfres deledu ar S4C ar hyn o bryd sef 'I'r Eithaf'.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Huw Brassington is a presenter and speaker, author, adventurer and athlete of distinction who has completed some of the world's most difficult races, including the Coast to Coast race in New Zealand. He hails from Caernarfonshire but now lives with his wife Gwenllian in Cumbria, and lectures in Engineering. He currently presents the S4C series 'I'r Eithaf'.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784618384
Gwales Code
gwales.com.9781784618384
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Stori Sydyn: Herio i'r Eithaf
Awdur / Author
Brassington, Huw Jack
Current Price ex VAT
£1.00
Current Price inc VAT
£1.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-05-13
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Size
130 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Straeon Gwir (yn Gymraeg) | EN: True Stories (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae Huw Jack Brassington, awdur y gyfrol hon, yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonon ni – ie, fo ydy’r boi gwallgo sy’n gadael i gamera ei ddilyn ar heriau gwallgo! Os ydych chi wedi mwynhau dilyn rhai o anturiaethau Huw ar y teledu, byddwch yn siŵr o fwynhau’r anturiaethau rhwng cloriau’r llyfr hwn. Cyn plymio i ganol y campau, cawn brolog bychan sy’n cyflwyno’n blwmp ac yn blaen y rheswm y mae’r awdur yn gwneud y pethau hyn – mae’r cloc yn tician, a does dim rheswm dros adael i unrhyw gynnig fynd heibio. O’r dechrau un, felly, down i adnabod cymeriad Huw, a’r hyn sy’n ei yrru i wynebu heriau sydd y tu hwnt i ddychymyg y mwyafrif ohonom. Dysgwn o’r bennod gyntaf fod y elfen benderfynol hon yn nodwedd gref ar ei gymeriad ers ei arddegau, os nad ynghynt, pan fu’n rhoi cant y cant mewn gêm rygbi, hyd yn oed os oedd ei dîm yn cael chwalfa heb obaith ennill, hyd at y chwiban olaf. Mae’r dyfalbarhad a’r pendantrwydd yma’n llinyn sy’n rhedeg drwy holl anturiaethau’r gyfrol. Cawn gyd-deithio ar siwrnai o orchestion ym mhedwar ban byd – o Iwerddon i Seland Newydd, ac o Ffrainc i Fietnam. Yr un mor amrywiol â’r hinsawdd ym mhob gwlad yw’r campau a’r heriau y mae’r awdur yn ymgiprys â hwy – o rygbi i ddringo mynydd, o driathlon i redeg mynydd, o gyfeiriannu i feicio mynydd, heb sôn am y sgarmes ddifyr wrth wynebu caiacio! Oes – mae digon o amrywiaeth o bennod i bennod, ac wrth i’r heriau fynd yn fwy dychrynllyd o flwyddyn i flwyddyn, mae’r profiad ‘anoddaf erioed’ yn ymddangos dro ar ôl tro! Wrth iddo adrodd am y campau corfforol hyn, cawn hefyd gipolwg ar yr heriau meddyliol sy’n wynebu anturiaethwyr fel Huw, a’r modd y mae’n eu goresgyn, hyd yn oed wrth wynebu’r ‘gêm o hide and seek fwyaf dychrynllyd’ erioed, neu wrth ffilmio rhaglen deledu gan ddefnyddio gêm wyddbwyll feddyliol fel tacteg i gael stori dda – a hynny yn ystod wythnosau anoddaf ei fywyd! Mae’r adrodd drwyddi draw yn onest iawn, ac er iddo gwestiynu ei allu i ysgrifennu llyfr, mae yma nifer o ddisgrifiadau bach da, megis y disgrifiad o Mont Blanc fel ‘morfil o fynydd, yn drwsgl ond eto’n urddasol, wedi ei lapio mewn blanced ddisglair o hanes mynydda caled’. Mae digon o gyfleoedd i chwerthin wrth ddarllen hefyd, gyda’r disgrifiadau o bobl a digwyddiadau doniol yn ymddangos drwyddi draw. Dyma stori sydyn sy’n llifo’n rhwydd. Yn wahanol iawn i’r anturiaethau y mae’r awdur wedi’u cwblhau, does dim angen blynyddoedd o ymarfer na dyfalbarhad, na chymorth i ddal ati, er mwyn concro’r gyfrol hon – fe lithrwch drwy’r cyfan heb symud modfedd!

View full details