Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Siwan a Cherddi Eraill

Siwan a Cherddi Eraill

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Argraffiad newydd o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae'r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy'n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a'i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a'r dramodydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

New edition of the classic drama about Siwan, Llywelyn Fawr's queen, by one of Wales's most important playwrights of the 20th century, together with 14 poems. Reprint. First Published in 1956.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781801065856
Gwales Code
gwales.com.9781801065856
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Siwan a Cherddi Eraill
Awdur / Author
Lewis, Saunders
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2025-09-23
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
88 pages
Size
130 × 210 mm; depth 6 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Drama - Uwchradd (yn Gymraeg) | EN: Drama - Secondary (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C019670

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

‘Sgandal yn llys ein Tywysog! Llywelyn yn dal Siwan odinebus! Crogi ei chariad!’ Hawdd dychmygu penawdau papur newydd 1230. Gwyddom y ffeithiau moel, ond nid paham y bradychodd Siwan Lywelyn ar ôl oes o’i helpu i adeiladu teyrnas Gwynedd yn erbyn ei thad ei hun, brenin Lloegr. Paham y dialodd Llywelyn mor giaidd ar Wilym Brewys druan? A rhyddhau Siwan o’i charchar ymhen blwyddyn? Ni wyddom air o unrhyw sgwrs rhwng y cymeriadau hyn. (Yn sicr Ffrangeg, nid Cymraeg, a siaradai Siwan a Gwilym gyda’i gilydd, ac efallai hefyd Siwan a Llywelyn.) Yn Siwan cawn ymgais bardd i ddychmygu eu cymhellion a’u hymddiddanion. Chwedl Saunders Lewis, ‘cerdd greadigol yw hi, nid gwaith hanesydd’. Cerdd radio, yn wreiddiol: y lleisiau, y llefaru barddonol sy’n bwysig, nid decor llwyfan a digwyddiadau gweladwy. Yn Act I, rhaid cyfleu’r garwriaeth, cefndir llys Gwynedd, ac unigrwydd digariad Siwan wedi oes o lafurio dros uchelgais Llywelyn. Cymherir y ddau gariad â Thrystan ac Esyllt: awgrymir mai tynged, nid dewis, yw achos eu serch ac y bydd yn angheuol, fel yn y chwedl. Pan ddelir hwy, Siwan sy’n llefaru’r geiriau sy’n selio tynged Gwilym. Yn Act II, rhaid wrth Alis i ddisgrifio i’r gwrandäwr beth na all ef na Siwan mo’i weld: dienyddio Gwilym ddewr. Carcharwyd Siwan a’i rhyddhau flwyddyn yn ddiweddarach: paham? Sut y gallodd y ddau gyd-fyw wedyn? Ceir yr ateb yn Act III. Cydymdeimla Saunders Lewis â’i arwres: gellir maddau i unrhyw wraig a ddywed, ‘Rhoddais fy nghroth i wleidyddiaeth fel pob merch brenin’. (Felly hefyd arwres Blodeuwedd : darllenwch honno.) Edmyga Saunders Lewis ddewrder Gwilym, sy’n mentro popeth er mwyn serch a mynd i’w dranc yn herfeiddiol dalog. Ond i Saunders Lewis dyma’r dirgelwch mwyaf: ‘Bu crogi Gwilym Brewys yn sioc i holl bendefigaeth ffiwdal Ewrop. Nid ei ladd, ond y crogi, cosb y lladron taeog’ (h.y. yn lle dienyddio anrhydeddus â bwyell). ‘Pam? Pam? O fyfyrio ar hynny y tyfodd y ddrama hon.’( Y Gragen , t.17, 1971) Gallasai’r arglwyddi Normanaidd eraill godi i ddial y sarhad: paham y mentrodd Llywelyn ei deyrnas? I fodloni dicter personol, fel y tybia Siwan? Na: fe gamddeallodd hi ei gŵr: wrth ymbil dros Wilym, dengys ei chred y byddai Llywelyn yn barod i aberthu ei anrhydedd er mwyn ei deyrnas. I Lywelyn, sarhad yw, sy’n peri iddo grogi Gwilym i ddangos bod anrhydedd yn bwysicach na theyrnas. Yn eironig, Siwan ei hun a bennodd dranc ei chariad. Yn Act III eglura Llywelyn wrthi: ‘Ti fu achos ei grogi ... Mi atebais i ddirmyg â dirmyg Ac i ddangos i wraig a’m sarnai /Fod un peth y taflwn i goron Aberffraw a Chymru Cunedda er ei fwyn’. Mae’n rhy hwyr iddi dyngu, ‘Nid dirmyg oedd fy mwriad.’ Dwyseir tristwch urddasol yr act olaf pan glyw Siwan i Lywelyn ei charu o’r cychwyn, ond iddo ymatal rhag dangos hynny rhag ei dychryn. Mae’n rhy hwyr iddo yntau ddatgelu hyn: bu yntau ar fai. Camgymeriad trasig y ddau fu peidio ag agor eu calonnau i’w gilydd, a gadael i bryder ynghylch y deyrnas fod yn drech na theimladau personol. Er hynny, i Saunders Lewis, arwr i’w edmygu oedd Llywelyn. Meddai, ‘Mi dybiaf fod mentro popeth ar siawns ... a hynny er mwyn serch ... neu wlad neu anrhydedd ... yn rhan o gymeriad pob mab a merch o galon uchel. Hoffais innau gymeriadau fel yna, Amlyn ac Esther a Hofacker a Llywelyn Fawr.’( Y Gragen , l971) Nid gwaith hanesydd mo Siwan . Gŵr priod canol oed oedd Gwilym, nid llanc ifanc; nid drannoeth y crogwyd ef, ond dri mis yn ddiweddarach, nid yn Aber ger Bangor ond yng Nghastell Crogen, ger Llandrillo ym Meirionnydd. Gwyddys mai cynghorwyr Llywelyn a bwysodd am grogi’r Norman. Ni raid derbyn dehongliad dychmygus Saunders Lewis o’r ffeithiau moel. Er gwaethaf her Llywelyn, ni chododd yr arglwyddi Normanaidd yn ei erbyn; na brenin Lloegr ychwaith. Awgrymwyd mai cynllwyn oedd y cyfan, trap i ddenu Gwilym er mwyn cael esgus i gael gwared arno a rhannu ei diroedd yn ysbail. Bu pethau rhyfeddach na hynny yn hanes y gwledydd, a gellid dychmygu drama afaelgar ar sail y dyb honno. Erys Siwan yn ddarlun ingol o wrthdrawiad serch, anrhydedd a gwleidyddiaeth.

View full details