Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Sioetastig! - 22 o Ganeuon o Sioeau Cerdd

Sioetastig! - 22 o Ganeuon o Sioeau Cerdd

Regular price £12.95 GBP
Regular price Sale price £12.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

22 o ganeuon amrywiol o sioeau cerdd. Mae 13 wedi cael eu cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg o sioeau fel Chicago, Sweeney Todd, Aladdin, High School Musical a cheir 9 cân o sioeau cerdd Cymraeg. Mae cyfeiliant piano i bob un ac maen nhw'n amrywio o unawdau, deuawdau, partïon a chorau o bob math. Cyfrol anhepgor i bob unawdydd, ysgol a chôr.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of 22 songs from various musicals, with piano accompaniment. Solos, duets, ensemble and choral songs are included from Welsh musicals and translations of English shows such as Chicago, Sweeney Todd, Aladdin and High School Musical.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784611101
Gwales Code
gwales.com.9781784611101
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Sioetastig! - 22 o Ganeuon o Sioeau Cerdd
Awdur / Author
Lolfa, Y
Current Price ex VAT
£12.95
Current Price inc VAT
£12.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-04-08
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Editor
Hughes, Catrin Wyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
297 × 230 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Music and Songs (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Catrin Wyn Hughes yn athrawes gerdd ac yn Bennaeth Safonau Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun y Strade. Mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau ac ar y cyfryngau (Codi Canu), fel arweinydd corau (Cantata a Lleisiau’r Cwm), fel sylwebydd ar gystadleuthau corawl ac fel beirniaid yn ein prif eisteddfodau. Fel athrawes mae wedi bod yn hyfforddi corau a chyfarwyddo sioeau cerdd ers dros 15 mlynedd.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

22 o ganeuon, 18 sioe, 1 llyfr – Sioetastig! Bu llwyddiant mawr i gôr Ysgol Glanaethwy yng nghlyweliadau agoriadol cystadleuaeth Britain’s Got Talent yn ddiweddar. Yn amserol iawn, felly, mae’r arweinydd corau cyfarwydd Catrin Wyn Hughes wedi cyhoeddi’r casgliad cyntaf o’i bath o ganeuon o sioeau cerdd, a hynny mewn da bryd ar gyfer y rheiny sy’n bwriadu cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn perfformiadau arbennig Bryn Terfel fel y barbwr dieflig yn y cynhyrchiad diweddaraf o Sweeney Todd yn Llundain, mae’r gyfrol yn cynnwys cân o’r sioe, sef ‘Tra ’mod i gerllaw’ / ‘Not while I’m around’ a gyfieithwyd gan Rhian Staples. Mae Sioetastig! (y Lolfa) yn gasgliad amrywiol o 22 o ganeuon Cymraeg o fyd y sioeau cerdd, ac yn cynnwys cyfieithiadau newydd sbon o sioeau Brodway a’r West End yn ogystal â chaneuon o sioeau gwreiddiol Cymraeg gan Gareth Glyn, Rhys Jones a nifer o gyfansoddwyr Cymreig. Mae 13 o’r caneuon wedi eu cyfieithu gan feirdd megis Huw Meirion Edwards, Tudur Dylan Jones ac Emyr Davies, ac mae 9 cân Gymraeg. Bu Catrin Wyn Hughes yn golygu’r holl ganeuon ar gyfer unawdau, deuawdau, ensemblau a chorau a geir rhwng cloriau Sioetastig!, gyda chymorth Gwawr Jones. Ymhlith yr amrywiol sioeau cerdd y mae Nia Ben Aur, Branwen, Jekyll and Hyde, Chicago, Spring Awakening, High School Musical, Aladdin a Sweeney Todd. Wedi’i chyhoeddi mewn da bryd ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am ddeunydd newydd ar gyfer cystadlu a pherfformio mewn cyngherddau, mae’r gyfrol hefyd yn arf pwysig i bob ysgol, aelwyd a chymdeithas gorawl. Mae nodiadau cefndir pob sioe yn ogystal â hanes pob cân yng nghyd-destun y stori a sut i ddehongli’r gân. Top tips Catrin i berfformwyr llwyfan: · Cyn dysgu unrhyw gân o sioe gerdd, gwnewch waith ymchwil i’r stori, y cymeriadau a’r digwyddiadau sydd ynddi. · Rhaid cynhesu’r llais yn raddol cyn unrhyw berfformiad er mwyn rhyddhau tannau’r llais. · Mae iro’r llais cyn perfformio yn bwysig, felly yfwch ddigon o ddŵr. Ceisiwch osgoi cynhyrchion llaeth cyn canu gan eu bod yn gadael haen ar dannau’r llais.

View full details