Cyngor Llyfrau Cymru
Sain Ffagan 75
Sain Ffagan 75
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Amgueddfa Werin Cymru yn 75 oed yn 2023, ac i ddathlu'r achlysur, comisiynir lluniau gan y ffotograffydd Richard Outram ac 20 o gerddi newydd i ddathlu'r adeiladau sydd wedi cael eu hail-godi yn Sain Ffagan – y siopau, y cartrefi a'r llefydd gwaith sydd wedi cael eu symud yno o bedwar ban ein gwlad.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The Welsh Folk Museum at St Fagan's is 75 years old in 2023, and this volume, comprising commissioned photographs by Richard Outram and 20 new poems, celebrate the buildings rebuilt at St Fagan's - shops, homes and workplaces moved there from all corners of our country.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845279011
- Gwales Code
- gwales.com.9781845279011
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Sain Ffagan 75
- Awdur / Author
- Gwalch, Gwasg Carreg
- Current Price ex VAT
- £19.99
- Current Price inc VAT
- £19.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-09-15
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Editor
- Glyn, Ifor ap
- Darlunydd / Illustrator
- Outram, Richard
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 144 pages
- Size
- 240 × 200 mm; depth 12 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Ffotograffydd llawrydd yw Richard Outram, sy'n arwain cyrsiau ffotograffiaeth ac wedi gweithio ledled y byd. Dyma'i bedwaredd gyfrol i Wasg Carreg Gwalch ers 'Trysorau Cudd Caernarfon' hefo Angharad Price yn 2018. Mae'r frodor o Fangor ond wedi hen gartrefu yng Nghaernarfon. Mae Ifor ap Glyn wedi cynhyrchu sawl cyfres deledu a radio yn ymwneud â hanes, gan gynnwys 'Evan Jones ar Cherokee', 'Hedd Wyn' a 'Llefydd Sanctaidd'. Ei gyfrol ddiweddaraf yw 'Anwyl Fam' - pererindod drwy'r Rhyfel Mawr, ac ef yw golygydd y cylchgrawn 'Hanes Byw'.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Bydd pennod ar gyfer pob un o'r ugain adeilad a ddewiswyd ar gyfer y llyfr, a cherdd yn ymateb i bob adeilad wedi'i hysgrifennu gan fardd sydd â chysylltiad agos â'r ardal lle safai'r adeilad yn wreiddiol. Bydd Richard Outram (yn dilyn ei lwyddiant gyda Trysorau Cudd Caernarfon, Enaid Eryri ac Aberteifi) unwaith eto'n rhoi gwrthbwynt i waith y beirdd gyda'i luniau. Bydd yn defnyddio'i ddawn i ganfod onglau newydd ar destunau cyfarwydd, wrth ymateb i adeiladau Sain Ffagan, ac hefyd weithiau, i'r llefydd lle safent gynt. Golygir y cyfan gan Ifor ap Glyn, a bydd yn ysgrifennu pennod ragarweiniol ar y cyd hefo Dafydd Wiliam, Prif Guradur yr Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan. Bydd y bennod hon yn cyflwyno peth o hanes yr amgueddfa, y broses o gael yr adeiladau, a sut y mae'r polisi wedi newid dros y blynyddoedd. Er mai adeiladau'n perthyn i'r gorffennol gwledig a ddaeth yma gynta, o'r 1980au ymlaen aed ati i gyfleu gorffennol ein cymunedau diwydiannol yn ogystal. Dyma'r beirdd fydd yn ymateb i'r adeiladau: Emyr Lewis Pre-fab, Gabalfa Mererid Hopwood Gweithdy'r Clocsiwr, Tyddewi Dyfan Lewis Kennixton, Llangennith Clare Potter Institiwt y Gweithwyr, Oakdale Arwyn Groe Abernodwydd Elinor Gwynn Llainfadyn, Rhostryfan Aneirin Karadog Twlc Rhydfelen Morgan Owen Rhesdai Rhyd y car Elinor Wyn Reynolds Swyddfa Bost Blaenwaun Gwenallt Llwyd Ifan Cilewent Menna Elfyn Nantwallter, Taliaris Idris Reynolds Melin Bompren, Caerwedros Aled Lewis Evans Ysgubor Stryd Lydan Eirug Salisbury Tolldy Penparce Annes Glyn Llys Llywelyn, (Niwbwrch) Philippa Gibson Ysgol Maestir, Llanwnnen Nici Beech Talwrn, Dinbych Tudur Hallam Eglwys Sant Teilo, Pontarddulais Tegwen Bruce-Deans a Rhys Iorwerth Bydd lansiad yn Cwrw, 32 Heol y Brenin, Caerfyrddin nos Fawrth, 14 Tachwedd am 7 yr hwyr, gyda Ifor ap Glyn a nifer o'r beirdd sydd wedi cyfrannu. Croeso cynnes i bawb. Cynhelir noson yng nghwmni Ifor ap Glyn yng Nghapel y Boro, 90 Southwark Bridge Road, Llundain SE1 0EX nos Wener, 1af Rhagfyr am 7.30 yr hwyr. Croeso cynnes i bawb.
Share
