Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Rhuddin — Ymddiddan y Corff a'r Enaid

Rhuddin — Ymddiddan y Corff a'r Enaid

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol unigryw a gwreiddiol yn y Gymraeg sy'n cyflwyno ysgrifau a cherddi newydd sbon ar wahanol themâu'n ymwneud â yoga a meddylgarwch.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An original and unique volume in the Welsh language presenting essays and brand new poems on themes relating to yoga and mindfulness.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781911584513
Gwales Code
gwales.com.9781911584513
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Rhuddin — Ymddiddan y Corff a'r Enaid
Sub Title
Ymddiddan y Corff a'r Enaid
Awdur / Author
Karadog, Laura
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-09-26
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Barddas
Darlunydd / Illustrator
Aaron, Luned
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
96 pages
Size
140 × 180 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Laura Karadog yn athrawes yoga brofiadol sy’n byw ym Mhontyberem, Caerfyrddin. Mae hi’n cynnal blog sy'n cynnig cysur ac arweiniad ar wella’r corff yn ogystal â’r meddwl, ac yn cyfrannu’n gyson i gylchgronau fel 'Barn' a gwefannau megis Meddwl.org. Bu hi hefyd yn rhan o’r criw wnaeth sefydlu’r app ‘Cwtsh’ sef app arbennig i ddod i adnabod chi eich hun drwy fyfyrio yn y Gymraeg.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Geiriau o Lyfr Du Caerfyrddin sydd yn yr isdeitl, ac adlais o gerdd gan Waldo ac o lythyr Paul at y Rhufeinaid yn y prif deitl, ond rhwng y tudalennau, geiriau'r awdur, yn dyner, glir a gonest sydd yma, yn trafod pynciau sy'n gysylltiedig â yoga a meddylgarwch – disgyblaethau sy'n blodeuo ac yn cynyddol fagu cydnabyddiaeth a pharch yn ein cymdeithas, wrth i iechyd holistaidd hawlio ein sylw yng nghyd-destun effeithiau'r pandemig. Mae yma gyfeirio at synnwyr greddfol nifer fawr ohonom, a “[b]od llawer o'r atebion yr ydym ni'n chwilio amdanynt i'w canfod y tu mewn i ni'n hunain, ac nid ar y tu allan”. Noda’r awdur mai ceisio rhoi blas yw ei bwriad, “a hynny mewn geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel Cymry sy'n siarad Cymraeg”. Ceir penodau ar themâu gwreiddio, caredigrwydd, anadlu, egni, bodlonrwydd, ildio, myfyrio, a gorffwys. Mae patrwm i bob pennod: darlun lliw, pennill, trafodaeth, pennill, ac ymarferiad. Ar gyfer pob thema cyflwynir trafodaeth fer ar y pwnc gan gyfuno eglurhad gwyddonol ac athronyddol â phrofiadau a chyd-destun personol sy'n creu naws gartrefol, esmwyth a chroesawgar i'r darllenydd. Trysorau'r gyfrol hon yw'r nifer o gerddi cain gan feirdd cyfoes, a hefyd gerddi gan fawrion ein cenedl, Waldo Williams a Dic Jones. I bob thema mae lliw gwahanol, caredig i'r llygad, o blith lliwiau'r ddaear, a darluniau gan Luned Aaron yn fynegiant gweledol trawiadol i'r pwnc dan sylw. Mae'r ymarferion yn addas i bawb, ac yn cyfuno technegau yoga a meddylgarwch megis ‘ystum y mynydd’, myfyrdod caredigrwydd cariadus, arafu'r anadl, dod o hyd i'r egni, diolchgarwch, hunanholi, sganio'r corff, yoga adferol a yoga nidra. Os yw'r geiriau o iaith Sanskrit yn peri ychydig o benbleth, mae geirfa ddefnyddiol a diddorol yng nghefn y gyfrol yn egluro ystyr geiriau fel tadasana, sef “Enw'r iaith Sanskrit ar ystum a adwaenir fel 'Ystum y Mynydd' wrth ymarfer yoga. Mae'n gyfuniad o'r geiriau tada 'mynydd' ac asana 'sedd' neu 'ystum'.” Ar y dudalen flaen ac yn y llyfryddiaeth a'r rhestr darllen pellach yng nghefn y gyfrol cyfeirir at gyfieithiad Cymraeg ‘Y Fendigaid Gân’ gan yr Athro Cyril G. Williams o destun clasurol y Bhagavad Gītā. A dyma osod y gyfrol hon mewn llinach brin o drysorau ym maes yoga a meddylgarwch yn y Gymraeg. Dyma wedd gynhenid Gymreig, flasus iawn, ar bwnc a gysylltir yn arferol â'r Dwyrain. Bydd yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i holl ymarferwyr yoga a meddylgarwch, i athrawon ac arweinwyr yn y maes, ac i bob un sydd yn mwynhau ymddiddan ynghylch “ein hanfod, ein craidd a'n rhuddin”.

View full details