Cyngor Llyfrau Cymru
Rhannu Ambarél - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2017
Rhannu Ambarél - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2017
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2017. Bydd y gyfrol hon o straeon byrion yn aros yn eich cof am amser maith. Mae'r awdur yn adnabod pobol, yn ein dwyn i ganol eu bywydau, ac yn cyffwrdd ein calonnau wrth i'w chymeriadau brofi tynerwch a chreulondeb cariad.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Winner of the Prose Medal at the 2017 National Eisteddfod, being a collection of six short stories about relationships and the tenderness and brutality of love.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912173006
- Gwales Code
- gwales.com.9781912173006
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Rhannu Ambarél - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2017
- Awdur / Author
- Edwards, Sonia
- Current Price ex VAT
- £8.95
- Current Price inc VAT
- £8.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-08-09
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 120 pages
- Size
- 130 × 200 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Sonia Edwards yn awdur sydd wedi hen ennill ei phlwyf ym myd llenyddiaeth Gymraeg, a chaiff ei hadnabod am ei harddull deimladwy, sensitif. Braf oedd ei gweld hi'n codi ar ei thraed i dderbyn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Môn eleni, a hithau'n un o bobol gwlad y medra. A bobol, mae hi'n medru! Mae ei chyfrol o straeon byrion, Rhannu Ambarél , eisoes wedi ennyn ymateb ffafriol iawn, a darllenwyr wedi eu swyno gan gynildeb hyfryd ei straeon. Er bod arddull gyfareddol ac unigryw'r awdur yn gyson drwy'r straeon, mae amrywiaeth mawr mewn tôn ac awyrgylch o stori i stori. Mae tueddiad, boed hynny'n ymwybodol ar ran yr awdur ai peidio, i ysgrifennu am wahanol bynciau tabŵ – affêr rhwng myfyrwraig a'i thiwtor; hen ŵr yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon i leddfu poen; profedigaeth. Er bod y rhain yn bynciau mawr, mae'r straeon a'r cymeriadau yn gwbl gredadwy. Tuedda'r awdur i graffu ar fanylion bychain bywyd bob dydd ynghanol y sefyllfaoedd mawr yma o newid byd – a dyna ddod at symboliaeth yr ambarél. Mentraf ddweud na fydd unrhyw un a ddarllena'r straeon yma yn gweld yr eitem hon yn yr un ffordd eto. Mae'n symbol o agosatrwydd ac, wrth gwrs, yn eich diogelu rhag pob math o dywydd mawr. Caiff Sonia Edwards ei hadnabod am ei throsiadau a'i chymariaethau trawiadol, ac mae'r rheiny'n frith drwy'r straeon yma. Disgrifir alawon fel 'pethau crwydrol, cyntefig fel y tonnau, yn aros 'run fath ond yn newid o hyd'. Wrth wneud paned, bydd 'sŵn y sarff o deciall yn chwythu'n biwis'. Byddai'r cyffyrddiadau barddonol yma yn gallu amharu ar lif y stori a theimlo braidd yn drwm, ond mae hynny'n cael ei osgoi am fod y ddeialog yn llifo mor hawdd. Mae lleisiau'r cymeriadau yn gwbl glir ac mae'r ieithwedd a'r geiriau yn gyfarwydd i ni i gyd. A dyna yw hanfod hyfryd a chyfareddol Rhannu Ambarél . Mae'n cymryd cymeriadau a sefyllfaoedd sy'n gyfarwydd i ni i gyd, ac yn craffu arnyn nhw mewn manylder cain, barddonol, bendigedig. Dyma straeon fydd yn aros ym meddwl pob darllenydd am amser hir.
Share
