Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Pumed Gainc y Mabinogi

Pumed Gainc y Mabinogi

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Anghofiwch beth rydych chi'n ei gredu sy'n wir. Rhiannon, Gwydion, Mathonwy - oeddech chi'n meddwl mai dim ond chwedlau ydyn nhw? Mae'r 'Llyfr Glas' wedi cael ei ailddarganfod... mae creaduriaid amhosib yn ymgasglu yn y cysgodion... ac mae grymoedd sydd tu hwnt i'ch dealltwriaeth yn ymestyn eu crafangau er mwyn rhwygo'ch realiti yn ddarnau...

Disgrifiad Saesneg / English Description

Forget everything about what you think is true. Rhiannon, Gwydion, Mathonwy - did you think that they are only myths? The 'Blue Book' has been rediscovered... strange creatures gather in the shadows... and forces beyond your understanding spread their claws to tear your reality to shreds..

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800991927
Gwales Code
gwales.com.9781800991927
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Pumed Gainc y Mabinogi
Awdur / Author
Glyn, Peredur
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2024-08-01
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
224 pages
Size
131 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Daw Peredur Glyn o Fodffordd, Môn. Aeth i Goleg Queens', Caergrawnt, i astudio Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg gan gwblhau BA, MA ac MPhil yn y maes. Ar y cwrs hwn y datblygodd ei ddiddordeb a gwybodaeth academaidd o straeon, hanes a mytholeg canol-oesol Cymraeg, sydd yn chwarae rhan flaenllaw yn nifer o straeon y gyfrol. Erbyn hyn, mae'n Uwchddarlithydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma ei gyfrol gyntaf.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Wn i ddim a ddylwn i eich annog i ddarllen y casgliad hwn o straeon byrion ai peidio – fe fydd yn gofyn dewrder, does dim amheuaeth am hynny! Dywedir wrthym ar y clawr fod yr awdur sy’n dod o Fôn, (‘Ynys Dywyll’ y Derwyddon), wedi magu diddordeb mewn llenyddiaeth ganoloesol wrth astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Llwyddodd i droi'r diddordeb hwnnw’n greadigaethau llenyddol cwbl gyffrous a thra gwahanol i ddim a ddarllenais ers tro byd. Yn y stori gyntaf un fe ddeuir ar draws hen lawysgrif yn nyfnderoedd archifau’r Brifysgol. Hwn yw’r 'Llyfr Glas' ac er y rhybudd pendant i beidio’i ddarllen, dyna a wneir, wrth gwrs! Beth a gawn ynddo yw nid yn unig gronicl cynnar o’n hen chwedlau ond hefyd fersiwn o Bumed Gainc y Mabinogi, rhywbeth nad oedd neb wedi dod ar ei draws o’r blaen. Mae’r darganfyddiad yn arwain at gyfres o storïau cydgysylltiol ond cwbl annibynnol ar ei gilydd sy’n ymwneud â’n chwedloniaeth gynnar. Storïau ydynt sydd wedi eu gwreiddio yn ddwfn yn ein chwedlau cynharaf, ond yn perthyn ar yr un pryd i’n bywydau ni heddiw. Cyflwynir ni i fyd o ‘leisiau a drychiolaethau’, peryglon a bygythiadau. Yn ‘Y Gwyliwr ar y Tŵr’, stori sy’n adleisio chwedl Cantre’r Gwaelod, fe ddaw’r bygythiad o gyfeiriad y môr. Mae ‘Cysgod y Crafanc’ wedyn wedi ei lleoli ar fferm gyfoes lle megir merlod ac fel stori drawiadol arall, ‘Rigantona’, mae’n ein hatgoffa yn gryf o chwedl Pwyll Pendefig Dyfed. Mae ‘Arswyd y Maen’ yn mynd â ni i gynteddau tywyll o dan feini’r Orsedd. Cawn fod yna bresenoldeb sinistr ym mhob man bron, boed hynny mewn coedwig, ogof neu ddyfroedd dyfnion rhyw lyn pellennig. Hyd yn oed mewn tafarn ym Mangor Ucha ni ellwch ymddiried mewn cyfaill sydd wedi dod i rannu peint tawel gyda chi. A gochelwch rhag mynd i neuadd gymunedol sy’n ddiniwed yr olwg. Mae yna gyntefigrwydd maleisus o’ch cwmpas ym mhobman ... Mae’r straeon yn llawn digwyddiadau a marwolaethau anesboniadwy ac ambell ddiflaniad na ellir ei egluro, heb sôn am lofruddiaethau gwaedlyd. Cawn y cyfan yn cyrraedd penllanw llawn arswyd yn y stori olaf gyda’r ymweliad ag Annwfn. Nid cyfrol i’r darllenydd ofnus yw hon, felly. Ond fe allaf dystio y bydd y sawl sy’n ddigon dewr i fynd i’r afael â hi yn cael blas garw ar bori rhwng y tudalennau, gan ddymuno gwneud hynny dro ar ôl tro.

View full details