Cyngor Llyfrau Cymru
Prydlondeb a Ffyddlondeb — Hanes Cwmni Theatr Maldwyn 1981-2021
Prydlondeb a Ffyddlondeb — Hanes Cwmni Theatr Maldwyn 1981-2021
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Sefydlwyd Cwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1981. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae'n parhau i gynnig profiadau theatrig a cherddorol cyfoethog i ieuenctid yr ardal ac yn dal i ddiddanu cynulleidfaoedd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Cwmni Theatr Maldwyn was founded in preparation for the 1981 Machynlleth National Eisteddfod. Fourty years later, it continues to give rich musical and theatrical experiences to the youth of the area and continues to entertain audiences.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845278168
- Gwales Code
- gwales.com.9781845278168
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Prydlondeb a Ffyddlondeb — Hanes Cwmni Theatr Maldwyn 1981-2021
- Sub Title
- Hanes Cwmni Theatr Maldwyn 1981-2021
- Awdur / Author
- Roberts, Penri
- Current Price ex VAT
- £15.00
- Current Price inc VAT
- £15.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-07-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 240 pages
- Size
- 210 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: 20fed Ganrif (yn Gymraeg) | EN: 20th Century (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
O'r sioe gyntaf, 'Y Mab Darogan' hyd at ddathliad y cwmni yn 2021, dyma stori'r broses o greu cwmni mewn rhan wledig o Gymru a'r ffordd y denwyd pobl o Faldwyn, Meirion a Cheredigion i fod yn aelodau dros y blynyddoedd. Closiwn hefyd at berthynas arbennig y triawd, Linda Gittins, Derec Williams a Penri Roberts wrth iddynt greu sioeau eiconig a thrysorfa o ganeuon sy'n parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw. Mae llwyddiant y cwmni yn ddiarhebol: o lenwi Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur, teithio i berfformio ym mhrif theatrau y genedl ac i werthu pob tocyn mewn dau berfformiad ar yr un diwrnod o'r sioe 'Ann!' yn Venue Cymru Llandudno a Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Dyma gofnod sy'n cynnwys llu o luniau o holl gynyrchiadau'r cwmni, ynghyd â hanes sefydlu Ysgol Theatr Maldwyn yn 2004 gan ddathlu yn ogystal lwyddiant rhai o'r cyn-aelodau sy'n serennu ar lwyfan y West End yn Llundain erbyn hyn. "Mae'r Eisteddfod ac yn wir Cymru gyfan yn ddyledus i Derec, Penri a Linda am gyfoethogi ein diwylliant ac am roddi cyfle i gymaint o ieuenctid ein gwlad i gael bod yn rhan o brosiectau cymunedol mor werthfawr." Elfed Roberts, Cyn Brifweithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol "Ac wedi deugain mlynedd, mae cyfraniad y cwmni hynod hwn yn anferth. Mae wedi rhoi llwyfan i rai o'n lleisiau a'n hactorion gorau ni, mae wedi diddanu degawdau o gynulleidfaoedd awchus a thrwy gân a geiriau wedi'n haddysgu am rai o ddigwyddiadau a phersonoliaethau mwyaf arwyddocaol ein hanes." Caryl Parry Jones
Share
