Cyngor Llyfrau Cymru
Pobol Porth yr Aur
Pobol Porth yr Aur
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma gyfle i grwydro strydoedd y dre ryfeddol hon a grewyd gan Harri Parri. Cewch wybod mwy am drigolion lliwgar Porth yr Aur, beth a sbardunodd Harri i'w creu a nifer o gyfrinachau eraill. Llyfr anrheg ardderchog.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A golden opportunity to wander the streets of the memorable town created by popular author Harri Parri, Porth yr Aur. A colourful book, and an ideal Christmas present.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781907424816
- Gwales Code
- gwales.com.9781907424816
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Pobol Porth yr Aur
- Awdur / Author
- Bwthyn, Gwasg y
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-10-16
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Editor
- Lewis, Gwyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 288 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Wrth bori drwy dudalennau Pobol Porth yr Aur , mae atgofion melys iawn yn dod yn eu hola’. Ista o flaen tân efo Nain yn gwrando ar hynt a helynt ei phentref ym Mhen Llŷn, neb yn cael gadael heb gael llond tebot o de a chacan neu blatiad cyfa’ o binc-weffyrs, dwyn blodau o rar-drws-nesa’, y berwela wrth ei dilyn yn ‘hel tai’ a bloedd yn lle cnoc wrth gerdded i mewn i’r tai teras bob tro, a gorau oll gweld Nain ei hun yn chwerthin hyd at ddagrau wrth hel straeon amball un! Yndw, dw i’n ôl yno. Ers degawdau mae Harri Parri a’i gymeriadau wedi ein diddanu. Diddanu yng ngwir ystyr y gair. Yn llawn ffraethineb, clyfrwch a dawn dweud heb ei ail, aiff Harri Parri â ni i gymdeithas sydd mor hynod o gyfarwydd, o Gymraeg. Yn gawr yn ei grefft, mae’r awdur yn un sy’n nabod ei bobl drwyddynt draw, maen nhw’n byw o’i gwmpas yn y byd hwnnw y mae’n cyfaddef iddo greu iddo’i hun fel dihangfa. Mae John Ogwen wedyn wedi gweithio law yn llaw ag ef - yn ôl Harri Parri i roi ‘cig a gwaed’ ar ei sgerbydau. Ydi, mae John Ogwen yn theatr un dyn, heb os nac oni bai, ond nid sgerbydau o bell ffordd sy’n byw ym Mhorth yr Aur pan mae ar bapur chwaith. Pobl fel chi a fi sydd yma a gwych yw eu cael yn gasgliad gyflawn i’r holl rai sydd wedi dilyn yr hynt a’r helynt. Mae cynhesrwydd pur mewn cymeriadau megis Miss Davies sy’n pryderu’n arw am ei chath, Mistyr Thomas y Gweinidog a Cecil Siswrn a ‘swn i a Shamus yn neud yn iawn. Dawn Harri Parri yw gwneud i’r darllenydd deimlo ei fod yn byw a bod efo’r bobl hyn, yn eistedd yn cael paned yn eu parlwr ac yn torri eu gwalltiau yn Y Siswrn yn clywed yr holl sgyrsiau difyr. Mae’n feistr ar realaeth bywyd gan ddod â’r gorau allan o fodau dynol a gwneud i ni ddyheu i gymunedau fel un Porth yr Aur barhau am byth. Yn ogystal â’r casgliad, mae’r cyfraniad gan Harri Parri ei hun yn werthfawr i ddeall y dewin sydd wedi rhoi gwên i ni i gyd dros y blynyddoedd. Mae gwerthfawrogiadau edmygwyr yn gytûn ei fod yn frenin ar y stori ffraeth. Diolch, Harri Parri, am fynd â fi’n nol i blentyndod hapus iawn. Mae pobl Porth yr Aur yn fyw, ac yn anfarwol.
Share
