Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Plentyn y Gryffalo

Plentyn y Gryffalo

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

"Rhaid i ti, fy mab, byth byth fynd am dro. I'r goedwig fawr ddofn!" meddai'r Gryffalo. Ond un nos pan oedd eira yn dew dros y wlad mae ap Gryffalo'n sleifio o ogof ei dad. Wedi'r cyfan dydy'r llygoden fwya drwg fu erioed ddim yn bod ... Ydy hi? Mae miliynau o blant ym mhedwar ban y byd yn dwlu ar yr ail antur hon yn y goedwig dywyll ddu, sydd mor wych â'r un antur gyntaf.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The Gryffalo's son is warned not to go walking in the great forest, but what happens to him when he sneaks out from his father's cave? An adaptation of the renowned rhyming story The Gruffalo's Child. Suitable for children aged 3-7 years.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781855967007
Gwales Code
gwales.com.9781855967007
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Plentyn y Gryffalo
Awdur / Author
Donaldson, Julia
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2024-10-01
Cyhoeddwr / Publisher
Dref Wen
Translator
Williams, Gwynne
Darlunydd / Illustrator
Scheffler, Axel
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
215 × 270 mm; depth 3 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C010256

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae Ap Gryffalo wedi’i eni – hwrê! Os cawsoch chi a’ch plantos eich swyno gan y Gryffalo gwreiddiol, gwnewch yn siŵr bod copi o addasiad y Dref Wen o Plentyn y Gryffalo ar gael yn eich tŷ chi. Fel gyda phob cyfrol lwyddiannus, mae’n anodd creu dilyniant sy’n gallu cystadlu, ond mae Plentyn y Gryffalo , hithau, er efallai ddim cweit mor glyfar, yn gyfuniad hyfryd o hanes ar ffurf cwpledi sy’n odli a lluniau gwych gan Axel Scheffler; cyfuniad sy’n cadw momentwm y stori ac yn cynnal y cyffro hyd y diwedd. Braf dweud bod yr addasiad yn un digon slic, ac os brynoch chi’r tâp efo’r Gryffalo gwreiddiol mi fyddwch chi a’ch cynulleidfa yn siŵr o ddechrau canu efo’r llyfr yma hefyd, ac mae hi’n braf iawn cael gwneud hynny yn Gymraeg! Mae Ap Gryffalo yn greadur bach blewog, hoffus ac yn benderfynol o ddod o hyd i’r llygoden erchyll wnaeth godi braw ar ei dad: 'Sisialodd yn ddistaw, does gen i ddim ofn!' Ond buan iawn mae ei ddychymyg yn cael y gorau arno! Druan bach, mae yntau hefyd yn cael ei dwyllo gan y llygoden sy’n honni bod ganddi hi dad chwedlonol, 'y llygoden fwya drwg, fwya blin' yn y byd. Mae yma ddigon o chwarae ar eiriau (fel y llwynog sy’n dweud bod y llygoden '...wrthi fan acw’n yfed Gryffalo-êd' !) a doniolwch, ac ydi, mae hon hefyd yn stori gofiadwy iawn. Darllenwch hi’n uchel!

View full details