Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Paradwys Goll

Paradwys Goll

Regular price £11.99 GBP
Regular price Sale price £11.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Fel yn ei gyfrol gyntaf, Y Delyn Aur (2023), mae Malachy Edwards yn mynd â'r darllenydd ar daith yn Paradwys Goll a hynny o Fôn i Farbados ar drywydd hanes cymhleth ei dad-cu. Wedi ei arfogi â chopi o arwrgerdd Milton o'r 17eg ganrif, a ddaw a hyd i ddihangfa ystyrlon ym mharadwys goll ei hynafiaid? Dyma gofiant cyfredol ac unigryw sy'n cyflwyno profiadau Cymro Du Cymraeg.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Following his creative non-fiction début, Y Delyn Aur (2023), Malachy Edwards takes his readers on a further journey in Paradwys Goll ('Paradise Lost'), from Anglesey to Barbados, trying to comprehend his grandfather's complex past. But will he find a meaningful refuge in his ancestor's lost paradise? This is a current and unique example of life writing written by a Black Welsh-speaking Welshman.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781917006262
Gwales Code
gwales.com.9781917006262
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Paradwys Goll
Awdur / Author
Edwards, Malachy Owain
Current Price ex VAT
£11.99
Current Price inc VAT
£11.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2025-10-03
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
280 pages
Size
130 × 200 mm; depth 25 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Yn enedigol o Lundain ac wedi ei fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy bellach yn byw ar Ynys Môn gyda'i wraig a'i deulu ifanc, mab a dwy o ferched.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Born in London and brought up in Taff's Well, Malachy now lives in Anglesey with his wife and three children.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Guto Dafydd: 'Mae Paradwys Goll yn wrthddadl argyhoeddiadol i’r gred mai crebachu y mae cwmpas y profiad Cymraeg, ac nad oes a wnelom ni ddim â cherhyntau pellgyrhaeddol hanes y byd mawr. Pwerir y gyfrol gan etifeddiaeth bersonol ryfeddol Malachy Edwards, gan ei chwilfrydedd goddefgar ynghylch y cymeriadau cymhleth sy’n frith drwy hanes ei deulu, a chan ei ysfa i ddeall y byd a wnaeth gaethweision o’i gyndeidiau a Chymro dedwydd ohono yntau.' Yr Athro Jerry Hunter: ‘Dyma gyfrol sy’n trafod hunaniaeth mewn modd craff, deallus a hynod afaelgar. Ac yntau’n datgan yn falch ei fod yn Gymro Du Ewropeaidd, mae Malachy Edwards yn archwilio hanes ei deulu a rhawd ei fywyd ei hun gyda naratif amlhaenog sy’n mynd â ni i Farbados, Llundain, Ffynnon Taf, Ynys Môn a Ffrainc, ac mae’r vignettes personol cofiadwy hyn yn gyfrwng iddo ymdreiddio i rai o’r agweddau hyllaf ar hanes y ddynoliaeth. Yn gyfrwng i’r cyfan y mae llais awdurol unigryw sy’n llwyddo’n rhyfeddol i gyfuno agosatrwydd swynol, gonestrwydd ingol a threiddgarwch academaidd. Ond er bod trais a chreulondeb yn ganolog i rai o’r haenau hanesyddol dan sylw, mae cariad yn pefrio trwy frawddegau Paradwys Goll.’

View full details