Cyngor Llyfrau Cymru
Nicsyn Cricsyn ar lan y môr
Nicsyn Cricsyn ar lan y môr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Y nofel gyntaf mewn cyfres hwyliog am berfformiadau ci drygionus mewn dosbarth yn yr ysgol. Mae'r dosbarth ar binnau eisiau gwybod pwy yw'r 'ymwelydd annisgwyl' y maen nhw ar fin ei gyfarfod. Pan welan nhw mai ci bywiog, cyffrous a chyfeillgar ydyw, mae hyn yn datblygu perthynas agos rhwng gwahanol aelodau'r dosbarth a'r ci gwadd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The first novel in a fun series about the performances of a mischevious dog in school classroom.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845248116
- Gwales Code
- gwales.com.9781845248116
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Nicsyn Cricsyn ar lan y môr
- Awdur / Author
- Meres, Jonathan
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-04-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Translator
- Dafydd, Myrddin ap
- Darlunydd / Illustrator
- Halford, Katy
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 96 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 9 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- FSC Status
- No FSC or PEFC logo/certification declared
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae’r gyfres hon o lyfrau am gi a’i gyfeillion dynol wedi’i chreu gan yr awdur hynod o boblogaidd, Jonathan Meres – awdur dros 30 o lyfrau plant. Dechreuodd Katy Halford, darlunydd y gyfres, wneud lluniau a chreu ei byd hudolus ei hun pan oedd yn blentyn. Mae wedi gwirioni ar dynnu lluniau pobl ac anifeiliaid.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Nofel ysgafn a hwyliog, ond wedi’i chynllunio’n ofalus i gynorthwyo’r darllenwyr ifanc i fachu yn y stori ac i’w gwneud yn ddarllenwyr mwy hyderus a phrofiadol. Gwerth y gyfrol yw y bydd yn gwneud i blant chwerthin – ond hefyd yn magu cariad at lyfrau. Broliant Pwy yw aelod newydd y dosbarth? Cliw: mae ganddo bedair coes, mae’n cyfarth yn uchel ac mae ganddo gôt felen, flewog, gyrliog! Mae plant Ysgol Brynllawen yn gwirioni fod Nicsyn Cricsyn y ci yn eu dosbarth. Mae'n mwynhau gwrando ar stori, ac yn ymuno yn y gwersi canu! Wrth i Mr Rhys gyhoeddi eu bod am gael trip i lan y môr, a bod Nicsyn yn cael dod hefyd, mae pawb Denu plant i fwynhau darllen: Mae’r nofelau ysgafn hyn yn anelu at ddenu plant i fwynhau darllen. Maen nhw’n cael eu treialu ar gyfer plant a phobl ifanc, a hynny gan blant a phobl ifanc. Mae adnoddau addysgol yn cael eu paratoi ar gyfer gwersi parod ar y penodau – adnoddau i hwyluso gwaith athrawon wedi eu creu gan gyn-athrawon profiadol. Adolygiadau “I’r darllenwyr llai hyderus a ddysgais y llynedd, roedd Nicsyn Cricsyn yn llwyddiant ysgubol – llyfr sy’n apelio'n weledol, heb ymddangos yn rhy hawdd nac yn fabïaidd ac yn bwysicaf oll, yn rhoi pleser aruthrol i'r rhai a aeth i’w nôl oddi ar y silff.” – Mrs Sydney (World’s Smallest Library) “Llyfr ardderchog! Doniol a llawn mwynhad. Dechreuais ei ddarllen i fy mhlentyn 7 oed, ond dyma hi’n gafael yn y llyfr a’i ddarllen ei hun mewn dim o dro!” – Chemikalfaire, Toppsta.com “Fy hoff gymeriad oedd Shakira gan ei bod hi’n hoffi caws macaroni. Rydw i’n mynd i ddarllen y llyfr yma unwaith eto.” – Milesfoster, Toppsta.com “Dyma’r llyfr cyntaf lle mae fy merch wedi dewis geiriau neu frawddegau i’w darllen ei hun, neu wedi gofyn beth oedd ambell air roeddwn i wedi’i ddarllen iddi. Mae hynny oherwydd fod y gosodiad ar dudalen mor gyfeillgar a hawdd i’w ddarllen – does dim darnau maith o destun, dim ond ychydig o frawddegau gyda’i gilydd a gofod cyn yr ychydig frawddegau nesaf.” – Brightbel, Toppsta.com “Mae’n amlwg fod Jonathan Meres yn deall plant gystal ag y mae’n deall cŵn (mae’r stori yn seiliedig ar Pablo, ei gi ef ei hun). Bydd darllenwyr ifanc wrth eu bodd yn rhannu anturiaethau Nicsyn… Mae’n llyfr hynod o ddarllenadwy a bydd Nicsyn yn dod yn ffrind i bawb.” – LoveReading4Kids Cyflweliad gyda Pablo, ci yr awdur – y cymeriad sy’n ysbrydoliaeth i straeon Nicsyn Beth yw dy hoff fwyd? Y bwyd fydda i’n ei gael nesaf. Mae Jonathan [yr awdur] yn fy ngalw yn ‘hŵfer blewog’, gan fy mod yn hŵfro pob briwsionyn a ddaw i’r golwg. Pwy yw dy hoff berson? Yr un sy’n rhoi bwyd i mi. Rwy’n hoff iawn o fwyd. Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gi? Anodd ateb hwn oherwydd mai dyna rydw i wedi bod erioed. Ond rwy’n gwybod fy mod wrth fy modd yn rhedeg ar ôl brigau a pheli. Mae rasio ar ôl gwiwerod yn sbort hefyd – er nad ydw i erioed wedi dal un. Hefyd, rwy’n hoff o fwyta. Wyt ti’n helpu Jonathan gyda’i waith sgwennu? Ydw. Fi sy’n rhoi’r syniadau goraui iddo. Bydd ef yn gwadu hyn efallai. Ond dyna’r gwir. Mae’n cael llawer o syniadau wrth fynd â fi am dro. – Clwb Llyfrau Parrot Street
Share
